Un o gantonau'r Swistir yw Nidwalden (Ffrangeg: Nidwald), yn swyddogol hefyd Unterwalden nid dem Wald. Saif yng nghanolbarth y Swistir, ac roedd y boblogaeth yn 2005 yn 39,866. Prifddinas y canton yw Stans.
Hanner canton yw Nidwalden. Mae hyn yn golygu nad oes ganddo ond un cynrychiolydd yn y Ständerat, a bod y canlyniad mewn refferendwm yn cyfrif fel hanner canlyniad canton llawn. Fel arall, mae ganddo'r un hawliau a'r cantonau eraill.
Saif Nidwalden yr yr Alpau; y copa uchaf yw Rotstöckli, 2,921 medr. Almaeneg yw iaith gyntaf y rhan fwyaf o'r trigolion (92.5%), ac o ran crefydd mae'r mwyafrif yn Gatholigion.