Un o gantonau'r Swistir yw Fribourg (Ffrangeg: Fribourg; Almaeneg: Freiburg). Saif yng nghanolbarth y Swistir, ac roedd y boblogaeth yn 2002 yn 239,100. Prifddinas y canton yw dinas Fribourg.
Ffrangeg yw iaith gyntaf y rhan fwyaf o'r trigolion (60.9%), ond siaredir Almaeneg gan nifer sylweddol (29.7%) hefyd.