Bryn ar Ynys Môn yw Mynydd Llwydiarth. Mae'r copa yn 158 medr o uchder.
Saif y bryn yn ne-ddwyrain yr ynys, i'r dwyrain o bentref Pentraeth ac i'r gorllewin o bentref Llanddona, a gerllaw glannau Traeth Coch. Gorchuddir y bryn gan goedwig gonifferaidd Coed Pentraeth, sy'n un o gadarnleoedd y Wiwer Goch. Ceir llyn, Llyn Llwydiarth, ar ochr ddeheuol y mynydd, ac mae afon Braint yn tarddu yma.