Lleolir Mount Pindo ('Mynydd Pindo') yng Ngalisia, sy'n wlad gyda pheth ymreolaeth o fewn Sbaen. Mae'n fynydd pwysig yn hanes y wlad, gydag uchder yn 627m (2,057 tr).[1] Ceir nifer o chwedlau am y mynydd, a ystyrir gan rai haneswyr fel yr Olympus Celtaidd. Ychydig iawn o fynd a dod fu yn y gymdeithas leol, oherwydd ei daeareg, ac mae llawer o'r enwau lleol yn tarddu o ieithoedd Celtaidd.
Daearyddiaeth
Saif y mynydd â'i droed yn arfordir yr Iwerydd, ger Carnota ac mae wedi ei ddynodi'n 'safle o ddiddordeb cymdeithasol arbennig ers 2014, ac wedi'i gynnwys yn y Natura 2000 dan y teitl 'Monte Pindo a Carnuta'. Mae'r mynydd o fewn Siroedd Carnota, Mazaricos, Cee a Dumbría - rhwng Corcubion ac aberoedd Ría de Muros e Noia, ac mae ei arwynebedd yn 4,629m.
Ceir nifer o anifeiliaid prin ar y mynydd gan gynnwys y dyfrgi, Gavia arctica, ystlumod a'r hebog tramor.[2]
Ceir ymgyrch gan amgylcheddwyr lleol i adfer statws 'parc naturiol, brodorol' i'r mynydd.[3]
Cafwyd tân enbyd yn 2013 a achosodd difrod eithriadol i Monte Pindo, gan losgi dros 1,600 hectar o goed.[4]
Hanes
Ceir tystiolaeth (ar ffurf serameg) fod pobl wedi byw yn yr ardal dros 6,000 o flynyddoedd yn ôl.[3] Yn y 10g cododd Esgob Iria Flavia gastell ar lethrau'r mynydd er mwyn amddiffyn yr ardal rhag ymosodiadau y Normaniaid a'r Llychlynwyr. Bu uchelwyr Galisiaidd yn trigo yno hyd at 1467 pan gafodd ei ddryllio mewn rhyfel.[5]
Caer arall ar y mynydd yw Peñafiel a bu yma hefyd feudwyaid a ffynhonnau sanctaidd yma ac acw.[6]
Enw
Ystyr y gair binn mewn Gwyddeleg yw "copa mynydd", a thros gyfnod o amser aeth y gair i olygu'r mynydd ei hun. Felly hefyd Gaeleg yr Alban: beinn. Posibilrwydd arall yw lliw'r mynydd - yn y ddwy iaith, ystyr y gair 'dubh' yw 'du', ac mae'r Gymraeg yma'n debyg iawn.
Galeri
Cyfeiriadau