O 1992 hyd 1999, bu'n Weinidog Cydweithio Rhyngwladol a Buddsoddiad Tramor, ac o 1999 hyd 2011 bu'n Brif Weinidog Tiwnisia hyd y coup a ddaeth â rheolaeth Zine el-Abidine Ben Ali i ben ar 14 Ionawr 2011 fel canlyniad i'r brotestiadau eang yn erbyn y llywodraeth a ddechreuodd yn Sidi Bouzid ganol mis Rhagfyr 2010. Ar ôl tri diwrnod fel arlywydd dros dro dychwelodd i'w hen swydd o brif weinidog yn y 'llywodraeth undeb cenedlaethol' newydd. Ymddiswyddodd ar 27 Chwefror 2011 yn sgîl protestiadau pellach.