Mudiad ddamcaniaethol ydy moderniaeth, sydd a'i wreiddiau'n ddwfn yn y byd gorllewinol: mewn cyfnod o newidiadau enfawr yn niwylliant a thawsnewidiad cymdeithas ar ddiwedd y 19g a dechrau'r 20g. Mae'n fuduad sy'n cwmpasu'r celfyddydau, cerdd a diwylliant, yn ogystal â llenyddiaeth. Ymhlith y digwyddiadau pwysicaf sy'n gefndir i gychwyn moderniaeth mae diwydiannau enfawr ac ailwampio cymdeithas (Fictorianaidd yng ngwledydd Prydain) yn sylweddol e.e. datblygiadau sydyn dinasoedd drwy Ewrop, fel had unos, yn cael ei ddilyn gan y Rhyfel Byd Cyntaf a'i erchyllterau'n cael eu hadrodd ym mhapurau'r cyfnod. Er fod gwreiddiau moderniaeth yn ddwfn yn Ewrop, yn achos llenyddiaeth, chwaraewyd rhan bwysig hefyd gan nifer o awduron Eingl-Americanaidd.
Yn ei hanfod, dull celfyddydol o ymateb i fodernrwydd ydyw Moderniaeth. Yn hynny o beth gwahaniaethir rhwng modernrwydd, sef y cyflwr o fod yn fodern, neu fywyd modern yn ei wahanol agweddau, a Moderniaeth, sef yr ymateb celfyddydol i’r cyflwr hwn. Fel y dywed John Rowlands, ‘Nid yw bod yn gyfoes yr un peth â bod yn fodern... Nid ei fwrw’i hun yn egnïol i ganol llif cynhyrfus bywyd cyfoes a wna’r modernydd: buasai’r gwrthwyneb yn debycach o fod yn wir. Nid bod yn fodernistig yw bod yn fodern.’ Wedi dweud hyn, roedd elfennau o fewn Moderniaeth a oedd yn hynod awyddus i fabwysiadu dulliau technolegol newydd a ddaeth i fod ddechrau’r 20g, ac i bortreadu’r dechnoleg honno yn ogystal â’i hefelychu, boed beiriannau neu foduron neu sinema. Dau fudiad o’r fath a gysylltir yn agos â Moderniaeth yn Ewrop yw Futurismo, dan arweiniad F. T. Marinetti ac eraill, yn yr Eidal, a Vorticism a goleddid gan awduron fel Ezra Pound a Wyndham Lewis.[2] Dyma'r cyfnod pan fo yr Oes Oleuedig a chrefydd yn cael eu gwrthod gan fodernwyr blaenllaw.[3][4]
Pan ddywedodd y bardd Ezra Pound "Gwna fo'n newydd!" yn 1934, cyffyrddodd a chalon moderniaeth, ac wfftio diwylliant y gorffennol oedd un o brif nodweddion y mudiad. Yn yr ysbryd hwn, nodir y canlynol fel nodweddion (neu ddyfeisiadau newydd) moderniaeth: 'llif yr ymwybyddiaeth' (neu'r 'ymson mewnol') o fewn nofelau'r oes, digyweiredd a cherddoriaeth 12-tôn (dodecaffoni), peintiadau rhannol (dotiau ayb) a'r haniaethol (abstract) mewn celf gweledol, a'r rhain i gyd yn dechrau ymddangos yn y 19C.
Y man cychwyn
Mae Dafydd Johnston yn cynnig y cyfnod rhwng y 1890au a'r 1920au fel anterth Moderniaeth yn y cyd-destun Cymraeg, ac R. M. Jones yn cynnig 1902-1936. Mae'r hanesydd William Everdell yn nodi'r 1870au fel cychwyn y cyfnod, gyda'r mathemategydd Richard Dedekind (1831–1916) yn allweddol, lluniau ymrannol (neu ddotiau) Georges Seurat e.e. Un dimanche après-midi à l'Île de la Grande Jatte.[5] Y "modernydd cyntaf" yn llygad Clement Greenberg fodd bynnag yw Immanuel Kant (1724–1804) [6]
Er mwyn gallu deall a gwerthfawrogi Moderniaeth, rhaid wrth ddealltwriaeth o newidiadau syfrdanol y cyfnod, yn gymdeithasol, diwydiannol, diwylliannol ac economaidd. Awgryma John Rowlands fod y ffactorau hyn yn eang ac yn bellgyrhaeddol: roeddent yn cynnwys cyhoeddi gweithiau Charles Darwin a Sigmund Freud ym meysydd bioleg a seicoleg, a newidiasai yn sylfaenol y ffordd y meddyliai pobl amdanynt eu hunain; dirywiad cynyddol Cristnogaeth yn y Gorllewin, i raddau helaeth mewn ymateb i weithiau fel rhai Darwin, Freud ac eraill megis Nietzsche a Spengler; y Chwyldro Diwydiannol, a arweiniodd at ad-drefnu cymdeithas yn sylweddol, ac at ddatblygu technoleg yn bellgyrhaeddol, ond a oedd erbyn cyfnod Moderniaeth efallai wedi colli rhywfaint o’r hyder cynnar yng ngwerth ‘Cynnydd’; dinistr enbyd y Rhyfel Byd Cyntaf; dirwasgiad y tridegau; a Dirfodaeth.
Dadleuodd beirniaid megis Edna Longley mai ffôl yw defnyddio diffiniadau monolithig megis Rhamantiaeth a Moderniaeth – sydd yn gymwys ddigon i ddisgrifio llenyddiaethau diwylliannau mwyafrifol megis rhai Ffrainc, Lloegr neu’r Almaen – wrth drafod llenyddiaethau lleiafrifol fel un Iwerddon. Eto i gyd, byddai eraill yn dadlau mai awduron Gwyddelig a arloesodd ac a arweiniodd mewn llenyddiaeth o’r fath. Yn wir, mae modd cynnig, yn hytrach nag ymwrthod â’r term fel un sy’n fwy perthnasol i ddiwylliant mwyafrifol, mai dwysáu’r argyfwng Modernaidd a wna’r profiad lleiafrifol neu Gymraeg hefyd, oherwydd y ceir dimensiwn ychwanegol iddo: daw i ffocws mwy uniongyrchol a thyngedfennol wrth i lenorion Cymraeg wynebu posibilrwydd difodiant eu hiaith a’u diwylliant yn ychwanegol i’r ystyriaethau argyfyngus roedd artistiaid mewn gwledydd eraill yn eu hwynebu.
Serch hynny, mae’n rhaid cydnabod dyled Moderniaeth i fudiadau llenyddol eraill a’i rhagflaenodd, megis Rhamantiaeth, a chydnabod hefyd mai annelwig yw’r ffin rhyngddynt yn Gymraeg. Dychwelir at hyn maes o law; am y tro, mae modd gwahaniaethu rhwng Rhamantiaeth a Moderniaeth trwy awgrymu mai’r hyn a wna Moderniaeth yw wynebu erchylltra neu hylltra’r byd modern a’i bortreadu a’i gyfleu, yn hytrach nag adweithio iddo trwy ddelfrydu cyfnod a fu neu ddeisyfu am ddianc i fyd natur. Fel yr awgryma Dafydd Johnston, ‘ymwrthodai â llawer o ddulliau cydnabyddedig celfyddyd glasurol, megis naturiolaeth, soniaredd, naratif, a chynllun rhesymegol eglur – y math o nodweddion a wnâi gelfyddyd yn arwynebol ddymunol a swynol’.
Diffinio moderniaeth
Un o nodweddion pennaf moderniaeth yw hunan-ymwybyddiaeth ac eironi parthed llenyddiaeth a thraddodiadau cymdeithasol, a arweiniodd i arbrofion gyda ffurf, a thechnegau newydd a danlinellodd y prosesau a'r deunyddiau a ddefnyddid o fewn celf: i greu paentiadau, cerddi, adeiladau ayb.[7] Gwelwyd gwrthod hen ddysgeidiaeth Realaeth (celfyddydau)[8][9][9][10] a thrawsnewidia gweithiau'r gorffennol drwy ddefnyddio technegau megis ailadroddiad llên a cherdd), ymgorfforiad (sgwennu), ailsgwennu, adolygiadau a pharodiau.[11][12]
Moderniaeth yng Nghymru
Llenyddiaeth Gymraeg
Arloesodd Moderniaeth o ran ffurf, wrth i awduron arbrofi â ffurfiau a mesurau traddodiadol, neu ymwrthod yn llwyr â hwynt. Eto yma, mae angen pwysleisio nad ffenomen lenyddol yn unig yw Moderniaeth: gellir gweld yr un math o arbrofi ac arloesi ar waith yn y celfyddydau gweledol (Picasso yw un o'r enghreifftiau amlycaf) a cherddoriaeth (Schoenberg, er enghraifft). Yn sgil y diffiniadau hyn, dadleuodd rhai fod Moderniaeth yn hwyr yn cyrraedd Cymru, os cyrhaeddodd o gwbl, a bod un o gysyniadau canolog Moderniaeth, sef ymwrthod yn llwyr â thraddodiad, yn wrthnysig i’r meddylfryd Cymraeg ar ddechrau’r 20g. Rhydd Moderniaeth bwyslais ar y presennol, y cyfnewidiol a’r newydd, yn hytrach na’r tragwyddol, y sefydlog a’r traddodiadol. O fewn milieu llenyddol y Gymraeg felly, gellid yn hawdd gredu’r haeriad mai hwyr a gwan oedd dyfodiad Moderniaeth.
Mae lle i ddadlau, fodd bynnag, fod y bardd a'r llenor T. H. Parry-Williams wedi datblygu yn fodernydd o’r iawn ryw, a hynny cyn rhai o’r awduron mwyaf nodedig a gysylltir â’r dull yn Saesneg. Cyhoeddodd T. S. Eliot, er enghraifft, ei gerdd ddylanwadol a charreg filltir fodernaidd 'The Waste Land' yn 1922; ond enillodd Parry-Williams goron yr Eisteddfod Genedlaethol rai blynyddoedd ynghynt gyda’i bryddest arobryn ‘Y Ddinas’ (1915). Awgryma Angharad Price fod y ‘modd y canolbwyntir yn realaidd ar fryntni bywyd y ddinas hyd yn oed wrth ddisgrifio bywydau’r breintiedig, yn gwneud hon yn gerdd nodweddiadol Fodernaidd.’
Gwaith cynnar yw ‘Y Ddinas’ o ystyried cerddi ‘canonaidd’ diweddarach Parry-Williams. Yn sicr nid yr un yw ei Foderniaeth ar y cyfan â moderniaeth Eliot neu Joyce; ni cheir yr un astrusi a chyfeiriadaeth yn y cerddi hynny ag a geir yn The Waste Land neu Ulysses. Yma, fodd bynnag, dychwelir at yr awgrym nad hawdd canfod un diffiniad hollgynhwysol o Foderniaeth. Crynhodd Dafydd Johnston rai o’r elfennau Modernaidd sy’n nodweddu gwaith Parry-Williams ar ei hyd: yr ‘ansicrwydd, yr ymwybod â pherthynolrwydd a chymhlethdod bywyd, yr olwg oddrychol a’r argraff o bersonoliaeth ranedig.’ Wrth ddatblygu’i ddefnydd o’r rhigwm a chyflwyno ieithwedd fwy llafar a llai dyrchafedig neu glasurol i’w waith, roedd Parry-Williams hefyd wrth gwrs yn ‘ymwrthod â ffurfiau ac ieithwedd y traddodiad barddol’ – ac yn y cyd-destun Cymraeg, golygai hyn wrthryfela yn erbyn safonau arddulliol John Morris-Jones. Hyn oll a alluogodd beirniad fel J. E. Caerwyn Williams i alw Parry-Williams yn the first unequivocally “modern” literary artist working in Welsh.
Mentrodd R. M. Jones awgrymu na chofleidiodd llenorion Cymraeg mo Foderniaeth erioed yn llwyr, ac mai ‘[m]ater o ddethol’ ydoedd: derbyn vers libre, bydolwg dirfodol, a ‘delweddaeth ymenyddol a chymhlethu’, ond gwrthod cyfeiriadaeth esoterig ac arbrofi’n ormodol â ffurf. ‘Yn fyr’, cynigia R. M. Jones, ‘nid cwbl ddwl yw honni i Gymru goginio ei “Moderniaeth” gynnil hi ei hun’.
Mae Dafydd Johnston yn dadlau i ni gael dwy don o Foderniaeth yn Gymraeg: ‘y gyntaf yn fath negyddol o Foderniaeth, a’r ail yn hanfodol gadarnhaol.’ Hynny yw, roedd y don gyntaf hon yn ‘gwbl anwleidyddol’, ond yr ail yn dangos rhagor o ymrwymiad i safbwynt gwleidyddol neu gymdeithasol ymroddedig, gyda barddoniaeth Gwenallt fel yr enghraifft orau o hyn. Ond mae hefyd yma yn awgrymu y gellid ystyried cynnyrch diweddarach R. Williams Parry wrth iddo ymateb i ganlyniadau llosgi’r Ysgol Fomio ym Mhenyberth yn 1936 o fewn yr un garfan, yn ogystal â gwaith to newydd o feirdd ar ôl yr Ail Ryfel Byd, yn cynnwys Waldo Williams, Euros Bowen, a Bobi (R. M.) Jones ei hun. Dan ddylanwad Saunders Lewis, bu i’r ail do hwn ailddarganfod pechod a Christnogaeth, ac ymateb yn fwy uniongyrchol ffyrnig hefyd i fodernrwydd o fewn eu Moderniaeth.
Mater arall yw ceisio dosbarthu cynnyrch llenyddol Saunders Lewis ei hun: ‘ar yr olwg gyntaf y mae Saunders Lewis yn gymysgedd rhyfedd o’r Modernaidd a’r traddodiadol,’ awgryma Dafydd Johnston. Ac eto, y mae’r berthynas hon rhwng ei Foderniaeth a’i bwyslais ar draddodiad yn dangos mor anodd yw diffinio Moderniaeth yn y cyd-destun Cymraeg, a chaiff Johnston drafferth hefyd wrth geisio disgrifio testunau fel ‘Sŵn y Gwynt sy’n Chwythu’ (1953), cerdd J. Kitchener Davies. Awgryma, fodd bynnag, mai un nodwedd gyffredin ymhlith yr ail don o Fodernwyr Cymraeg nas cafwyd gan y gyntaf yw’r ‘gred ym mhŵer y dychymyg creadigol’: trwyddo, gall ‘grym trosgynnol celfyddyd’ ail-greu byd drylliedig, ac estyn yn ôl i archwilio traddodiad er mwyn cyflawni hynny. Gellir cymharu hyn â Moderniaeth gwledydd fel Iwerddon yn yr un cyfnod hefyd, yn ogystal â phwyslais rhai fel Eliot ar y ‘Traddodiad’ a’r ‘Talent Unigol’.
Dadleuodd beirniaid megis Alun Llywelyn-Williams na ddaeth Rhamantiaeth i’w llawn dwf yn yr iaith hyd ddechrau’r 20g – sef pan oedd gweddill y byd, i bob golwg, eisoes yn ymrafael â Moderniaeth. Cynigiodd R. M. Jones mai dyna pam na ddaeth Moderniaeth yn gyflawn i’r Gymraeg – roedd ei llenorion yn rhy brysur o hyd yn ceisio cyfuno Moderniaeth a Rhamantiaeth Sioraidd. Ymateb i’r un argyfwng y mae’r ddau fudiad, yn ôl John Rowlands: ‘[o]s mynegi ymdeimlad yr unigolyn o ddieithrwch wyneb yn wyneb â’r Chwyldro Diwydiannol a wnâi’r rhamantwyr cynnar, rhaid cydnabod mai parhau i ymdrin â dieithrwch... y mae’r modernwyr hefyd’.
Awgryma Rowlands, felly, fod y ‘llinell derfyn rhwng y rhamantaidd a’r modern mewn llenyddiaeth Gymraeg yn annelwig iawn. Gwelwn newid graddol yn agwedd beirdd unigol’. Enghreifftia hyn trwy enwi R. Williams Parry a T. Gwynn Jones, ac mae’r olaf yn enghraifft dda o’r modd y syniodd beirniaid gwahanol amdano mewn ffyrdd gwahanol. Er i Alun Llywelyn-Williams, er enghraifft, ddefnyddio Jones yn enghraifft allweddol wrth ddisgrifio Rhamantiaeth Gymraeg, ystyria Jerry Hunter ei ddefnydd o ‘frithluniau dychymyg y canrifoedd’ – hynny yw, drylliau neu ddarnau o wahanol rannau o’r traddodiad llenyddol a hanesyddol Cymraeg – a’i ailddyfeisiad ohonynt, yn weithred nodweddiadol Fodernaidd. Eto i gyd, gellir olrhain y lle canolog a roddir i’r dryll a’r drylliedig mewn Moderniaeth yn ôl i’r modd y mawrygid y drylliedig a’r maluriedig gan artistiaid Rhamantaidd a Gothig.
Wrth ymrafael â’r amryw ddiffiniadau hyn, dychwelir at berthynas unigryw Moderniaeth Gymraeg â thraddodiad. Gwthiodd Hunter awgrym R. M. Jones ymhellach eto a chynnig ‘I would, however, put the noun in the plural, stating that a number of Welsh artists have cooked up a number of uniquely Welsh Modernisms’. Fel yr awgryma John Rowlands, ‘efallai’n wir fod awydd cryf am ein gweddnewid ein hunain (trwy gyfrwng seicoleg) neu drawsffurfio cymdeithas (trwy gyfrwng gwleidyddiaeth chwyldroadol) yn un o nodweddion pwysicaf ein canrif ni’. Yn hytrach, felly, nag awgrymu mai’n hwyrfrydig y daeth Rhamantiaeth i’r Gymraeg, neu na ddigwyddodd Moderniaeth ‘go iawn’ yn yr iaith, gellid ystyried mai rhyw fath ar raddfa neu gontinwwm yw’r gwahanol fudiadau a gafwyd mewn llenyddiaeth Gymraeg dros y ganrif a hanner ddiwethaf, a’u bod i gyd i raddau yn ymdrin ac yn ymhél â’r ymdeimlad cynyddol o ddieithrwch, o argyfwng gwacter ystyr, ac o geisio canfod ystyr a hunaniaeth mewn byd cynyddol eang ond cynyddol ddrylliedig. Os felly, ac os gellir galw peth fel hyn yn Foderniaeth, yna mae achos cryf dros ddadlau mai Moderniaeth, yn ei hamryfal ffurfiau ac agweddau, yw mudiad artistig llywodraethol, os nad diffiniol, yr 20g yn Gymraeg.
↑[https://wici.porth.ac.uk/index.php/Moderniaeth Esboniadur, y Porth, y Coleg Cymraeg. Nodir fod y gwaith hwn ar CC-BY-SA. Mae llawer o'r testun yn yr erthygl hon wedi'i drawsgrifio yma; awdur erthygl yr Esboniadur: Llŷr Gwyn Lewis. Adalwyd 27 Awst 2016.
↑Pericles Lewis, Modernism, Nationalism, and the Novel (Cambridge University Press, 2000). tt 38–39.
↑"[James] Joyce's Ulysses is a comedy not divine, ending, like Dante's, in the vision of a God whose will is our peace, but human all-too-human...." Peter Faulkner, Modernism (Taylor & Francis, 1990). t 60.
↑The First Moderns: Profiles in the Origin of Twentieth-Century Thought. Chicago: University of Chicago Press, 1997, Chapters 3 & 4.
↑Gardner, Helen, Horst De la Croix, Richard G. Tansey, a Diane Kirkpatrick. Gardner's Art Through the Ages (San Diego: Harcourt Brace Jovanovich, 1991). ISBN 0-15-503770-6. t. 953.
The ground motive of modernism, Graff asserts, was criticism of the nineteenth-century bourgeois social order and its world view. Its artistic strategy was the self-conscious overturning of the conventions of bourgeois realism [...] the antirationalist, antirealist, antibourgeois program of modernism [...] the modernists, carrying the torch of romanticism, taught us that linearity, rationality, consciousness, cause and effect, naïve illusionism, transparent language, innocent anecdote, and middle-class moral conventions are not the whole story
Each of the types of repetition that we have examined is not limited to the mass media but belongs by right to the entire history of artistic creativity; plagiarism, quotation, parody, the ironic retake are typical of the entire artistic-literary tradition. Much art has been and is repetitive. The concept of absolute originality is a contemporary one, born with Romanticism; classical art was in vast measure serial, and the "modern" avant-garde (at the beginning of this century) challenged the Romantic idea of "creation from nothingness," with its techniques of collage, mustachios on the Mona Lisa, art about art, and so on.
Davies, G. (1999), Sefyll yn y Bwlch: Cymru a'r mudiad gwrth-fodern: astudiaeth o waith R.S. Thomas, Saunders *Lewis, T.S. Eliot a Simone Weil (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru).
Hunter, J. (1997), ‘Y Nos, y Niwl a’r Ynysig: Estheteg Fodernaidd T. Gwynn Jones’, Taliesin, 98, 37-54.
Hunter, J. (2007), ‘Llywelyn’s Breath, Arthur’s Nightmare: The Medievalism within Welsh Modernism’, Cambrian Medieval Celtic Studies, 53/54, 113-132.
Janowitz, A. (1999), ‘The Romantic Fragment’, yn Wu, D. (gol), A Companion to Romanticism (Oxford: Blackwell Publishing), tt. 442-51.
Johnston, D. (1993), ‘Moderniaeth a Thraddodiad’, Taliesin, 80, 13-24.
Jones, R. M. (1987), Llenyddiaeth Gymraeg 1902-1936 (Llandybie: Cyhoeddiadau Barddas).
Josipovici, G. (2010) What ever happened to Modernism? (London: Yale University Press).
Longley, E. (2013), Yeats and Modern Poetry (Cambridge: Cambridge University Press).
Llywelyn-Williams, A. (1960), Y Nos, y Niwl a’r Ynys: Agweddau ar y Profiad Rhamantaidd yng Nghymru 1890-1914 (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru).
Price, A. (2013), Ffarwél i Freiburg: crwydriadau cynnar T.H. Parry-Williams (Llandysul: Gwasg Gomer).
Rowlands, J. (1971), ‘Wêr-an-têr: Agwedd ar Waith T. H. Parry-Williams’, yn Williams, J. E. C. (gol.), Ysgrifau *Beirniadol VII (Dinbych: Gwasg Gee), tt. 167-83.
Williams, J. E. C. (1970), ‘The Poetry of T. H. Parry-Williams’, Poetry Wales, VI: i, 10.