Cyflwynydd teledu, newyddiadurwr ac awdur o Loegr oedd Syr Michael Parkinson CBE (28 Mawrth1935 – 16 Awst2023).[1] Cyflwynodd ei sioe siarad teledu Parkinson o 1971 i 1982 ac o 1998 i 2007, yn ogystal â sioeau siarad eraill yn rhyngwladol. Fe’i disgrifiwyd gan The Guardian fel “y gwesteiwr sioe siarad Prydeinig gwych”.[2]
Cafodd Parkinson ei eni ym mhentref Cudworth, ger Barnsley, Swydd Efrog. Yn fab i löwr,[3] cafodd ei addysg yn Ysgol Ramadeg Barnsley ac yn 1951 pasiodd ddwy Lefel O, mewn celf ac iaith Saesneg. Roedd yn gricedwr dros Nghlwb Criced Barnsley, gyda'i ffrind Dickie Bird.[4][5]
Dechreuodd Parkinson ei yrfa fel awdur erthyglau nodwedd i'r Manchester Guardian ac yn ddiweddarach ar y Daily Express. [2] Ar ol ei ddwy flynedd o Wasanaeth Cenedlaethol, derbyniodd gomisiwn fel swyddog yn y Royal Army Pay Corps.[6]
Teledu
Yn ystod y 1960au, bu Parkinson yn gweithio ar raglenni materion cyfoes i'r BBC a Granada Television. Roedd e'n cyflwynydd y rhaglen gylchgrawn newyddion dyddiol ''24 Hours'' ar BBC1 o 1966 [7] hyd at 1968.[8] O 1969 cyflwynodd Cinema, rhaglen adolygu ffilm hwyr y nos a Granada[6] , cyn ym mis Gorffennaf 1971 cyflwyno ei gyfres BBC Parkinson, gan adael y BBC ar gyfer ITV1 hanner ffordd drwy'r ail rediad a ddaeth i ben ar ôl 31 cyfres. Roedd wedi cyfweld â 2,000 o enwogion y byd.[9] Roedd Parkinson yn un o'r "Famous Five" ar y teledu yn y bore ym 1983, gydag Angela Rippon, Anna Ford, David Frost a Robert Kee.[10]
Ar 26 Mehefin 2007, cyhoeddodd Parkinson ei fod yn ymddeol ar ôl 25 mlynedd o wneud ei sioe siarad.[11] Ar 22 Awst 1959, priododd Mary Agnes Heneghan, a hanai o Doncaster. Bu iddynt dri o blant. Yn y 1970au, ymgyrchodd Parkinson i gefnogi rheolaeth geni, ar ôl cael fasectomi ym 1972 . [12]
Gwnaethpwyd Parkinson yn Farchog Baglor yn Rhestr Anrhydeddau'r Flwyddyn Newydd 2008; dwedodd nad oedd "y math i gael urdd marchog" yn dod o Barnsley.[13]
Ar 11 Tachwedd 2008, daeth yn Ganghellor cyntaf Prifysgol Nottingham Trent.[14]