Mavis Nicholson |
---|
Ganwyd | Mavis Mainwaring 19 Hydref 1930 Llansawel |
---|
Bu farw | 8 Medi 2022 |
---|
Dinasyddiaeth | Cymru |
---|
Alma mater | |
---|
Galwedigaeth | newyddiadurwr, cyflwynydd teledu |
---|
Awdur a darlledwr o Gymraes oedd Mavis Nicholson (19 Hydref 1930 – 8 Medi 2022).[1][2][3]
Bywyd cynnar
Fe'i ganwyd yn Mavis Mainwaring a threuliodd ei phlentyndod yn Llansawel. Aeth i astudio ym Mhrifysgol Abertawe. Yno yn 1949 cyfarfu'r awdur a'r newyddiadurwr, Geoffrey Nicholson, ac fe briododd y ddau yn 1952, a chawsant dri mab.
Yn 1951, ar ddiwedd ei gyrfa israddedig ym Mhrifysgol Abertawe, enillodd Nicholson ysgoloriaeth i hyfforddi fel ysgrifennwr copi hysbysebu a gyda hyn symudodd i Lundain.
Yn Llundain, roedd hi a'i gŵr yng nghanol cylch cymdeithasol bywiog cylch, yn gynnwys y newyddiadurwr a'r darlledwr John Morgan a'r nofelydd Kingsley Amis. Yn ôl ysgrif goffa o'i gŵr gan Peter Corrigan,[4] daeth Mavis a Geoff Nicholson yn "...much-loved double-act. Amis did not always approve of their views and claimed to have invented the word "lefties" during one little set-to with them. While it was true that the Nicholsons didn't have dinner parties as such - they invited people for an argument and threw some food in - they were by no means belligerent but had in abundance the Welsh love of debate."
Gyrfa
Gorffennodd Nicholson ei gwaith fel ysgrifennwr copi hysbysebu pan gafodd blant, ond cychwynnodd ail yrfa fel darlledwr pan ofynnwyd iddi gyflwyno rhaglen newydd, oherwydd ei arddull sgwrsio treiddgar a diddorol wrth y bwrdd cinio. Dangoswyd y rhaglen ar deledu yn ystod y dydd, oedd newydd gychwyn (yn flaenorol roedd teledu Prydeinig yn dechrau darlledu yn hwyr yn y prynhawn).
Ei swydd cyntaf fel cyflwynydd oedd ar y sioe 'Good Afternoon' yn 1972, a pharhaodd ei gyrfa teledu am y 25 mlynedd nesaf.[5]
Cyflwynodd rhaglenni teledu Prydeinig fel Afternoon, Afternoon Plus a Mavis On Four o'r 1970au hyd at y 1990au, lle bu'n cyfweld enwogion mawr fel Elizabeth Taylor, David Bowie, Peter Cook a Dudley Moore.[6][7][8] Cyflwynodd nifer o sioeau radio hefyd, gan gynnwys hanes y siop adrannol a golwg yn ôl ar ei phlentyndod.[9]
Ei gwaith olaf ar gyfer y teledu oedd Oldie TV yn 1997, fersiwn deledu o gylchgrawn The Oldie. Roedd yn ysgrifennu ar gyfer The Oldie, yn ysgrifennu colofn 'fodryb ofidiau' y cylchgrawn, hyd at 2014.[10][11]
Yn 1992, ysgrifennodd ei hunangofiant yn y llyfr Martha Jane and Me - A Girlhood in Wales.[12]
Yn Hydref 2018, enillodd wobr BAFTA Cymru am Gyfraniad Rhagorol i Ddarlledu.[13]
Bywyd personol
Erbyn diwedd yr 1980au symudodd Mavis a'i gŵr i fyw yn Llanrhaeadr-ym-Mochnant mewn tŷ ffarm ac ysgubor wedi ei addasu.
Bu farw Geoff yn 1999. Bu farw Mavis yn 91 mlwydd oed, ym mis Medi 2022.[14]
Cyfeiriadau
Dolenni allanol