Hanesydd o'r Almaen sy'n byw yng Nghymru yw Dr Marion Löffler (ganwyd 1966).[1][2]
Mae wedi gweithio i'r Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd yn Aberystwyth ac erbyn hyn yn gweithio i'r adran hanes ym Mhrifysgol Caerdydd fel Darllenydd Hanes Cymru.[3] Mae hi hefyd yn gyfrannwr i'r Bywgraffiadur Cymreig.
Meysydd ymchwil Marion Löffler yw’r berthynas rhwng hanes, iaith, diwylliant a chenedlaetholdeb yng Nghymru, rôl y wasg gyfnodol yn y broses o ddosbarthu syniadau a hybu disgwrs cyhoeddus, a'r broses o greu cof drwy'r disgwrs cyhoeddus hwn.[4] Yn 2005 roedd Marion yn rhan o'r brosiect Iolo Morganwg a’r Traddodiad Rhamantaidd yng Nghymru.
Cyhoeddiadau
Mae Marion wedi cyhoeddu nifer o erthyglau, papurau a llyfrau gan gynnwys y canlynol;
Cyfeiriadau