Margaret ferch Gruffudd ap Llywelyn Fawr

Margaret ferch Gruffudd ap Llywelyn Fawr
Ganwyd13 g Edit this on Wikidata
TadGruffudd ap Llywelyn Fawr Edit this on Wikidata

Un o ferched yr Arglwydd Gruffudd ap Llywelyn Fawr, tad Llywelyn ap Gruffudd, Tywysog Cymru, oedd y Dywysoges Margaret ferch Gruffudd ap Llywelyn (fl. tua 12451280).

Bywgraffiad

Ychydig a wyddys amdani. Roedd hi'n chwaer i Gwladus a merch arall, Catrin, ac i'w frodyr Llywelyn a Dafydd ap Gruffudd. Ni chyfeirir ati yn yr achau, sy'n awgrymu efallai ei bod yn ferch perth a llwyn i'w dad, Gruffudd.

Ymddengys fod Llywelyn wedi seilio ei berthynas a'i gynghreiriad Madog ap Gruffudd II, Arglwydd Powys Fadog, trwy drefnu iddo briodi ei chwaer Margaret, yn 1258, symudiad a ddigiodd frenin Lloegr.[1]

Etifeddodd Madog deyrnas Powys Fadog yn y flwyddyn 1269 ar farwolaeth ei dad, Gruffudd Maelor II. Roedd yn un o gefnogwyr amlycaf Llywelyn ap Gruffudd, Tywysog Cymru ac yn gynghreiriad hollbwysig oherwydd safle Powys Fadog yn rheoli'r mynediad i deyrnas Gwynedd o gyfeiriad Caer a'r Gororau.

Lladdwyd Madog yn ystod rhyfel 1277 rhwng Llywelyn a brenin Lloegr, wrth amddiffyn ei diroedd yn erbyn ymosodiad y brenin. Ni wyddys beth fu tynged Margaret ar ôl hynny, ond ceir cyfeiriad moel ati fel "chwaer Llywelyn" mewn dogfen sy'n dyddio i ddiwedd y 1270au.[1]

Cyfeiriadau

  1. 1.0 1.1 J. Beverley Smith, Llywelyn ap Gruffudd, Tywysog Cymru (Caerdydd, 1986), tud. 38.