Gwleidydd Llafur Prydeinig a wasanaethodd fel Ysgrifennydd Cyffredinol y Blaid Lafur rhwng 1998 a 2001 oedd Margaret Josephine McDonagh (26 Mehefin1961 – 24 Mehefin2023).[1][2] Roedd hi'n gyd-lywydd Cymdeithas Wyddelig y Blaid Lafur,[3] ac arglwydd am oes yn Nhŷ'r Arglwyddi fel y Farwnes McDonagh.
Cafodd McDonagh ei geni ym Mitcham, Surrey, i rhieni Gwyddelig,[4] Cumin McDonagh, llafurwr adeiladu, a'i wraig Breda (née Doogue), nyrs seiciatrig. Ei chwaer oedd Siobhain McDonagh, a etholwyd yn aelod seneddol Llafur dros Mitcham a Morden ym 1997. Am y rhan fwyaf o'i hoes, bu McDonagh yn byw gyda'i chwaer yn Llundain.[4] Cafodd ei addysg yn Ysgol Holy Cross yn New Malden Graddodd mewn llywodraeth ym Mhrifysgol Brunel Llundain ac wedyn astudiodd marchnata yn Ysgol Fusnes Kingston. Yn ddiweddarach cwblhaodd Raglen Rheolaeth Uwch yn Ysgol Fusnes Harvard yn yr UDA.[4]
Daeth McDonagh yn ysgrifennydd cyffredinol benywaidd cyntaf Llafur ym 1998.[2][5][6][2][7] Ymddiheurodd McDonagh yn ddiweddarach am ei rol yn y proses dewis ymgeisydd maer Llundain y blaid yn wael, a arweiniodd at Ken Livingstone yn ennill etholiad maerol 2000 fel ymgeisydd annibynnol.[8] Daeth ei sgiliau trefniadol i'r amlwg yn yr etholiad cyffredinol 2001. [2] Fe’i beirniadwyd am dderbyn rodd o £100,000 gan Daily Express a chyhoeddwr cylchgrawn oedolion Richard Desmond. [9]
Ar ôl ymddeol fel Ysgrifennydd Cyffredinol yn 2001, [10] daeth McDonagh yn Rheolwr Cyffredinol Express Newspapers.[8][11] Roedd hi'n Cadeirydd Ymddiriedolaeth Elusennol Standard Life.
Bu farw McDonah o glioblastoma yn ei chartref ar 24 Mehefin 2023,. [4][12] Cafodd ei disgrifio fel "linchpin" Llafur Newydd[13] a "wir arwr dosbarth gweithiol".[14]