Maes Awyr Môn

Maes Awyr Môn
Mathmaes awyr, erodrom traffig masnachol Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlYnys Môn Edit this on Wikidata
Agoriad swyddogol13 Chwefror 1941 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirYnys Môn Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr11 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.2481°N 4.5353°W Edit this on Wikidata
Rheolir ganyr Awyrlu Brenhinol Edit this on Wikidata
Map
Maes Awyr Môn
Anglesey Airport

IATA: HLY – ICAO: EGOV
Crynodeb
Perchennog RAF/Cyngor Sir Ynys Môn
Rheolwr Operon
Gwasanaethu Ynys Môn
Lleoliad Llanfair-yn-Neubwll, Ynys Môn
Uchder 37 tr / 11 m
Gwefan maesawyrmon.com
Lleiniau glanio
Cyfeiriad Hyd Arwyneb
tr m
01/19 5,377 1,639 Asffalt
08/26 4,200 1,280 Asffalt

Maes awyr ar Ynys Môn, gogledd Cymru, yw Maes Awyr Môn (Saesneg: Anglesey Airport). Cyngor Sir Ynys Môn yw'r perchennog, dan brydles, sy'n gyfrifol am ei redeg ond cwmni Operon sy'n gyfrifol am redeg y maes awyr ei hun. Mae'r maes awyr yn dal i berthyn i'r RAF ac mae RAF y Fali yn gyfrifol am reoli traffig awyr yno o hyd. Codau: IATA: VLY, ICAO: EGOV)

Lleolir y maes awyr ar ymyl RAF Valley ger y ffordd A5, tua 5 milltir i'r de-ddwyrain o Gaergybi, yng nghymuned Llanfair-yn-Neubwll.

Dechreuwyd y gwasanaeth rhwng rhwng Môn a Chaerdydd, a ariannir gan Llywodraeth Cynulliad Cymru yn 2007 gyda chwmni Highland Airways yn hedfan dwy daith y diwrnod rhwng Môn a Chaerydd. Yn 2010, wedi i Highland Airways fynd i ddwylo'r gweinyddwyr, cafodd Manx2 y cytundeb o hedfan rhwng gogledd a de Chymru ac ychwanegwyd gwasanaeth i Ynys Manaw am gyfnod yn ystod yr haf yn 2010 a 2011.[1]

Wedi i Manx2 fynd i ddwylo'r gweinyddwyr yn 2012 cymerodd Citywing reolaeth dros y daith rhwng Môn a Chaerdydd.

Cyfeiriadau

Dolen allanol

Eginyn erthygl sydd uchod am Ynys Môn. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato