Lucy Owen |
---|
|
Ganwyd | 28 Tachwedd 1970 Llandaf |
---|
Dinasyddiaeth | Cymru |
---|
Alma mater | |
---|
Galwedigaeth | cyflwynydd newyddion, newyddiadurwr |
---|
Priod | Rhodri Owen |
---|
Mae Lucy Jane Owen (née Cohen) (ganed 18 Gorffennaf 1971) yn newyddiadurwraig teledu Cymreig.
Bywgraffiad
Mynychodd Owen Ysgol Howell's yn Llandaf, Caerdydd a graddiodd mewn Saesneg o Royal Holloway, Prifysgol Llundain.
Gyrfa
Dechreuodd ei gyrfa darlledu fel ymchwilydd gyda BBC Radio Wales, cyn symud ymlaen i ddarparu adroddiadau a chyd-gyflwyno rhaglenni. Dechreuodd ddarllen y newyddion gyda HTV Wales ym 1995 gyda chyfraniadau newyddion lleol ar gyfer GMTV. Rhwng 1996 a 2007, cyflwynodd Wales Tonight, y rhaglen newyddion rhanbarthol ar ITV Wales, a ddarlledir o Gaerdydd.
Cyflwynodd Owen ar yr ITV News Channel, a bu'n prif gyflwynydd ar ITV News, Lunchtime News, Evening News a'r Weekend News. Cyflwynodd ei rhaglen olaf o Wales Tonight ar ddydd Gwener, 19 Hydref, 2007.
Mewn cam annisgwyl a wnaed am resymau personol, o'r 5 Tachwedd 2007, dechreuodd Owen gyflwyno rhaglen newyddion nosweithiol BBC Wales, "BBC Wales Today", gan gymryd lle'r cyflwynydd Sara Edwards.[1] O ganlyniad i newid o'r naill sianel i'r llall, ymunodd Owen â'i gŵr ar y rhaglen deledu X-Ray.
Bywyd personol
Priododd Owen y cyflwynydd teledu Rhodri Owen ym Mehefin 2004, yn Eglwys Saint Andras, Saint Andras ger Dinas Powys,[2] ac mae ganddynt un mab, Gabriel.
Cyfeiriadau