llenor, nofelydd, awdur plant, bardd, dyddiadurwr, cofiannydd, awdur storiau byrion, newyddiadurwr, athro
Adnabyddus am
Anne of Green Gables, Anne of Avonlea, Anne of the Island, Emily of New Moon, Jane of Lantern Hill, Rilla of Ingleside, Anne of Ingleside, Anne's House of Dreams, Rainbow Valley, Emily's Quest, Emily Climbs, The Story Girl, The Golden Road, Pat of Silver Bush, Mistress Pat, The Blue Castle
Awdur ffuglen fwyaf llwyddiannus o Ganada oedd Lucy Maud Montgomery (30 Tachwedd1874 – 24 Ebrill1942). Daeth ei nofel gyntaf, Anne of Green Gables (1908), yn werthwr orau ar unwaith ac mae wedi aros mewn print ers ei gyhoeddi.[1]
Cefndir
Ganwyd Montgomery yn Clifton (New London bellach), Prince Edward Island.[2] Roedd hi'n ferch i Hugh John Montgomery a Clara Woolner (née Macneilli). Roedd ei theulu yn un cefnog gyda'i wreiddiau yn yr Alban. Roedd ei hen daid ei mam ar ochor ei mam, William Simpson Macneill, yn aelod o ddeddfwrfa'r dalaith rhwng 1814 a 1838, a bu hefyd yn Llefarydd Tŷ'r Cynulliad. Gwasanaethodd ei thaid tadol, Donald Montgomery, yn neddfwrfa'r dalaith rhwng 1832 a 1874 a'r llywodraeth ffederal rhwng 1873 a 1893.
Bu farw ei mam o'r diciâu ym 1876, ychydig cyn i Montgomery troi'n ddyflwydd oed a chafodd ei magu gan ei nain a thaid mamol. Symudodd ei thad i Prince Albert, North-West Territories (Saskatchewan, bellach). Wedi iddo ail briodi symudodd Montgomery i fyw efo'i deulu newydd ym 1890. Ni fu'r berthynas efo'i mam wen yn un da ac o fewn blwyddyn symudodd yn ôl at ei thaid a nain.[3]
Addysg
Ym 1894, cwblhaodd Montgomery cwrs hyfforddi athrawon yng Ngholeg Tywysog Cymru, Charlottetown, gan raddio o’r rhaglen ddwy flynedd gydag anrhydedd ar ôl blwyddyn yn unig. Astudiodd lenyddiaeth Saesneg am flwyddyn yng Ngholeg y Merched, Halifax gan ymadael heb gwblhau gradd.[4]
Gyrfa
Bu'n gweithio fel athrawes yn ysgolion pentref Belmont a Lower Bedeque, Prince Edward Island ar ddiwedd y 1890au.[5] Wedi marw ei thaid ym 1898 dychwelodd i Cavendish a bu'n gweithio yn y swyddfa bost a oedd yn cael ei gadw gan ei nain hyd 1911. Bu hefyd yn darllen proflenni ac yn cyfrannu colofn i'r papur lleol The Daily Echo
Gyrfa Lenyddol
Ysgrifennodd Montgomery ei nofel gyntaf, Anne of Green Gables, ym 1905. Er ei chynnig i sawl cyhoeddwr cafodd y llyfr ei wrthod hyd 1907,[6] pam daeth i gytundeb a chwmni L.C. Page yn Boston. Cyhoeddwyd argraffiad cyntaf y llyfr ym mis Gorffennaf 1908, cafodd ei ail argraffu deng waith cyn diwedd y flwyddyn wedi gwerthu tua 19 mil o gopïau. Roedd ei chytundeb gyda chwmni Page yn cynnwys yr angen iddi ysgrifennu dwy nofel olynol am hanes Anne. Cyhoeddwyd Anne of Avonlea ym 1909 ac Anne of the Island ym 1915. Ysgrifennodd pedwar llyfr arall i Page yn ystod cyfnod ei chytundeb Kilmeny of the Orchard (1910), The Story Girl (1911), Chronicles of Avonlea (1912), a The Golden Road (1913).[7]
Cyflawnwyd cytundeb Montgomery gyda Page pan gyhoeddwyd y drydedd nofel am Ann ym 1915. Er gwaethaf hynny cyhoeddodd Page casgliad o'i straeon byrion Further Chronicles of Avonlea ym 1920 a bu anghydfod cyfreithiol hir rhwng y cyhoeddwr a'r awdur.
Wedi syrthio allan efo Page symudodd Montgomery at gyhoeddwyr McClelland and Stewart yng Nghanada a Frederick Stokes yn yr Unol Daleithiau.[8]
Erbyn diwedd ei gyrfa roedd Montgomery wedi cyhoeddi 20 nofel a dau lyfr o straeon byrion, yn ogystal ag un llyfr barddoniaeth a llyfr hunangofiannol. Cyhoeddodd hefyd llu o gerddi, straeon ac erthyglau ar gyfer cylchgronau ar hyd ei hoes. Cafodd y mwyafrif ohonynt eu cyhoeddi mewn llyfrau o gasgliadau ar ôl ei marwolaeth.[3]
Teulu
Priododd Montgomery a Ewen Macdonald, gweinidog gyda'r Presbyteriad, ym 1911 cawsant tri o feibion. Bu mab canol marw ychydig wedi ei eni. Wedi priodi aeth y teulu i fyw yn Leaskdale, Ontario, lle fu Ewen yn gwasanaethu fel gweinidog. Ym 1926 symudodd gweinidogaeth ei gŵr i bentref Norval. Ym 1934 bu Ewen yn ddioddef o salwch meddwl a chafodd ei ddanfon i ysbyty meddwl gan ymddiswyddo o'r weinidogaeth ym 1935. Symudodd y teulu i fyw i Toronto wedi ei ymddiswyddiad.[1]
Marwolaeth
Bu farw Montgomery yn Toronto ym 1942. Mae ei thystysgrif marwolaeth yn nodi thrombosis y galon fel yr achos. Ym mis Medi 2008 fe wnaeth ei wyres, Kate Macdonald Butler, datgan bod ei nain yn dioddef o iselder a'i bod wedi marw o hunanladdiad trwy orddos o gyffuriau. Cyhoeddodd nodyn hunanladdiad oedd ym meddiant y teulu i gefnogi ei honiad.[9] Er hynny mae rhai arbenigwyr yn amau'r syniad ei bod hi wedi lladd ei hun gan ddadlau bod presenoldeb y rhif “176,” ar ben y nodyn yn awgrymu mae nodiadau ar gyfer plot sydd yn y nodyn nid llythyr ffarwel cyn hunanladdiad.[1]
Dychwelwyd corff Montgomery i Prince Edward Island lle cafodd ei chladdu ym mynwent Cavendish.[10]