Locomotif 87 (Rheilffordd Eryri)

Locomotif 87
Enghraifft o:Locomotif Beyer Garratt Edit this on Wikidata
GwladGwlad Belg Edit this on Wikidata
Rhan oSouth African Class NG G16 2-6-2+2-6-2 Edit this on Wikidata
LleoliadRheilffordd Eryri Edit this on Wikidata
Lled y cledrautwo-foot gauge Edit this on Wikidata
GweithredwrSouth African Railways and Harbours Administration Edit this on Wikidata
GwneuthurwrJohn Cockerill & Cie. Edit this on Wikidata
GwladwriaethUndeb De Affrica, De Affrica Edit this on Wikidata
RhanbarthGwynedd Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mae Locomotif 87 yn Locomotif 2-6-2+2-6-2 Beyer Garratt dosbarth NGG16, adeiladwyd gan gwmni John Cockerill o Seraing, Gwlad Belg ar gyfer Rheilffordd De Affrica ym 1936. Aeth y locomotif i Port Shepstone ym 1937; Gweithiodd y locomotif yno tan 1968, pan gredwyd y symudwyd y locomotif i weithio yn Natal.

Wedyn daeth y lomotif i Brydain ar gyfer rheilffordd arfaethedig rhwng Whitby a Robin Hood’s Bay yn Swydd Efrog. Ar ôl methiant y prosiect yno, aeth rhif 87 i Reilffordd Stêm Exmoor am gyfnod. Prynwyd y locomotif gan Reilffordd Eryri. Cyrhaeddodd rhif 87 Iard Minffordd ar 4 Chwefror 2006 a symudwyd yn syth i weithdy Boston Lodge. Dechreuodd waith ar Reilffordd Eryri ym Mawrth 2009. Peintiwyd yn las ym mis Ionawr 2010.[1]

Newidiwyd teiars y locomotif a chryfhawyd ei ffrâm yn 2012. Terfynwyd ei docyn boeler yn 2018; daeth y boeler yn ôl, wedi pasio, yn mis Chwefror 2019, a pheintiwyd y locomotif yn ddu. Daeth y locomotif yn ôl i’w waith ar 15fed Chwefror 2020, jyst cyn cyrhaeddiad Covid-19. Ail-ddechreuwyd gwasanaethau ym mis Awst, a thynnodd rhif 87 y trenau i gyd.[2]

Cyfeiriadau