Llyn yng nghanolbarth y Swistir yw Llyn Lucerne (Almaeneg: Vierwaldstättersee, "Llyn y pedwar canton fforest"). Ef yw'r pedwerydd llyn yn y Swistir o ran maint, gydag arwynebedd o 114 km² a dyfnder mwyaf o 214 m. Saif mewn ardal fynyddig, 434 m (1,424 troedfedd) uwch lefel y môr. O'i gwmpas mae nifer o gopaon adnabyddus megis Mynydd Rigi a Mynydd Pilatus.