Llyn yn ne Gwynedd yw Llyn Du (nis enwir ar y map Arolwg Ordnans). Fe'i lleolir yng nghymuned Talsarnau yn ardal Ardudwy Uwch Artro, Meirionnydd.
Saif y llyn bychan hwn 1,750 troedfedd[1] i fyny yn rhan ogleddol y Rhinogydd, tua 9 milltir i'r gogledd-ddwyrain o Harlech, dan glogwynni Craig Ddrwg. Ychydig yn is i lawr i gyfeiriad y gorllewin ceir Llyn Eiddew Mawr.[2]
Ceir brithyll yn y llyn.[1]