Mae'r Rhinogydd (weithiau Rhinogau) yn gadwyn o fynyddoedd yn ardal Ardudwy, de Gwynedd, sy'n gorwedd i'r dwyrain o Harlech ac i'r gorllewin o'r ffordd rhwng Dolgellau a Thrawsfynydd.
Rhennir y gadwyn yn ddwy gan fwlch Drws Ardudwy, rhwng Rhinog Fawr a Rhinog Fach, a fu'n llwybr pwysig yn yr Oesoedd Canol. Ychydig i'r gogledd o hwn mae Bwlch Tyddiad (camarweiniol yw'r enw poblogaidd "Grisiau Rhufeinig/Roman Steps" ar y rhan o'r llwybr hwnnw sy'n arwain i'r bwlch hwn).