Llyn Du (Llanbedr)

Llyn Du
Mathllyn Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirLlanbedr Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr1,800 troedfedd Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.845273°N 3.996695°W Edit this on Wikidata
Map
Erthygl am y llyn yng nghymuned Llanbedr yw hon. Am lynnoedd eraill o'r un enw gweler Llyn Du (gwahaniaethu).

Llyn yn ne Gwynedd yw Llyn Du. Fe'i lleolir yng nghymuned Llanbedr yn ardal Ardudwy Uwch Artro, Meirionnydd.

Saif y llyn bychan hwn 1,800 troedfedd[1] i fyny yng nghanol y Rhinogydd, tua 5 milltir i'r dwyrain o Harlech, dan glogwynni llethrau gogleddol y Rhinog Fawr a rhyw chwarter milltir i'r de o ben Bwlch Tyddiad. Ychydig yn is i lawr i gyfeiriad y gogledd ceir dau lyn arall, sef Llyn Morwynion a Gloywlyn. Does dim ffrwd yn llifo o'r llyn nac iddo (gweler isod).[2]

Ceir brithyll yn y llyn. Yn ôl traddodiad lleol, "cafodd ei ffurfio o wlith a gwlith sy'n ei gynnal byth ers hynny."[1]

Cyfeiriadau

  1. 1.0 1.1 Frank Ward, The Lakes of Wales (Herbert Jenkins, Llundain, 1931).
  2. Map OS 1:50,000 Landranger 124 Dolgellau.