Llyn yn ne Gwynedd yw Llyn Barfog. Mae yna rodfa boblogaidd i'r llyn o Gwm Maethlon (1.5 km).
Llifa Afon Dyffryn Gwyn o'r llyn. Mae'n cyrraedd Bae Ceredigion tua milltir i'r de o dref Tywyn.
Yn ôl traddodiad, yma oedd cartref yr Afanc, anghenfil a lusgwyd o'r llyn gan y Brenin Arthur (neu gan Hu Gadarn, yn ôl y traddodiad a ffugwyd gan Iolo Morganwg yn y 18g).
Mae'r gors o gwmpas y llyn, a enwir Cors Barfog gan Gyfoeth Natur Cymru, yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig.[1]