Mae Afon Dyffryn Gwyn (Afon Dyffryn-gwyn ar y mapiau OS) yn afon ym Meirionnydd yn ne Gwynedd, gogledd-orllewin Cymru.
Mae Afon Dyffryn Gwyn yn tarddu ar lethrau Trum Gelli uwchben Cwm Maethlon ac o ffrwd sy'n llifo o Llyn Barfog. Mae'n llifo'n araf tua'r de-orllewin trwy Gwm Maethlon ac yn cyrraedd y môr ger fferm Penllyn, ychydig i'r de o dref Tywyn.