Prif storfa gyfreithiol a hawlfraint Tiwnisia yw Llyfrgell Genedlaethol Tiwnisia (Arabeg: المكتبة الوطنية التونسية ; Ffrangeg: Bibliothèque nationale de Tunisie).
Sefydlwyd y llyfrgell yn Nhiwnis ym 1885 fel y Bibliothèque francaise ('Llyfrgell Ffrengig'). Newidiwyd yr enw a chreu llyfrgell genedlaethol swyddogol ar ôl i Diwnisia ennill ei hannibyniaeth ar Ffrainc ym 1956. Yn 2005 symudodd o'r hen adeilad ym medina Tiwnis i adeilad newydd ar Boulevard 9 avril, ger Archifdy Cenedlaethol Tiwnisia. Cafodd yr adeilad newydd ei agor yn swyddogol gan Zine El Abidine Ben Ali, Arlywydd Tiwnisia, ar 1 Rhagfyr 2005.[1]
Llyfrau a llawysgrifau
Mae adran llawysgrifau'r llyfrgell yn cynnwys dros 40,000 teitl mewn 24,000 cyfrol. Dyma un o'r casgliadau llawysgrifau Arabeg mwyaf yn y byd sy'n cynnwys sawl cyfrol brin iawn ac sy'n rhychwantu tua 14 can mlynedd o ddysg, gwyddoniaeth a llenyddiaeth Arabaidd.[2]
Mae'r adran llyfrau printiedig yn cynnwys llyfrau o'r 16g hyd heddiw ar sawl pwnc. Llyfrau Arabeg a Ffrangeg yw'r rhan fwyaf o'r rhain, ond ceir cyfrolau mewn tua hanner cant o ieithoedd eraill hefyd.[2]
Cyfeiriadau
Dolenni allanol