Llyfr Gwyn Hergest

Llyfr Gwyn Hergest
Enghraifft o:gwaith ysgrifenedig, llawysgrif Edit this on Wikidata
IaithCymraeg Edit this on Wikidata
Dyddiad cyhoeddi15 g Edit this on Wikidata
Yn cynnwysY Bibyl Ynghymraec Edit this on Wikidata
Statws hawlfraintparth cyhoeddus, parth cyhoeddus Edit this on Wikidata

Llawysgrif Gymraeg ganoloesol oedd Llyfr Gwyn Hergest. Collwyd y llawysgrif mewn tân yn llyfrgell plasdy Mostyn ar ddechrau'r 19g. Credir i ran o'r cynnwys gael ei hysgrifennu gan y bardd Lewys Glyn Cothi yn ail hanner y 15g (cyn 1490).[1] Fe'i enwyd ar ôl teulu Hergest (Swydd Henffordd), noddwyr amlwg y cysylltir eu henw â Llyfr Coch Hergest, un o'n prif ffynnonellau am destunau'r Mabinogion.

Roedd Llyfr Gwyn Hergest yn llawysgrif bwysig. Gwyddom hynny am fod rhannau o'r cynnwys ar gael o hyd diolch i waith copïwyr cyn ei llosgi. Credai'r hynafiaethydd Robert Vaughan (tua 1592–1667) o'r Hengwrt (yn Llanelltud ger Dolgellau), mai Lewys Glyn Cothi, sy'n awdur sawl llawysgrif arall, oedd awdur y cyfan ond credir erbyn hyn mai dim ond yr adran o'i gerddi ei hun oedd yn llaw'r bardd adnabyddus hwnnw. Mae un awdl a thri chywydd o waith Lewys Glyn Cothi a fu yn y llawysgrif ar glawr heddiw.[1]

Ymhlith y testunau eraill yn y Llyfr Gwyn sydd ar glawr heddiw ceir copïau o'r testun a adwaenir fel Y Bibyl Ynghymraec ('Y Beibl yn Gymraeg') a'r 'Llyfr Arfau' (herodraeth ac achau cynnar).[1]

Cyfeiriadau

  1. 1.0 1.1 1.2 Dafydd Johnston (gol.), Gwaith Lewys Glyn Cothi (Caerdydd, 1995), tud. xxx.