Dyma, efallai'r llwybr mwyaf prysur o'r 8 llwybr rhanbarthol ar Lwybr Arfordir Cymru, sy'n 870 milltir o hyd ac a agorwyd yn 2012.[1]. Ceir golygfeydd gwych o aber afon Hafren sydd â’r amrediad llanw mwyaf ond un yn y byd, sef 49 troedfedd.
Llwybr Cas-gwent. Ceir dau lwybr a dau ddewis! Mae'r cyntaf yn amgylchu'r dref ei hun a'r llall o fewn muriau'r dref. Arwyddwyd y ddau lwybr yn glir. Man cychwyn y ddau ydy Canolfan Dwristiaeth y dref a ganfyddir ar lan Afon Gwy.[2]