Mae'r maes glo yn fasn o greigiau Carbonifferaidd, a ffurfiwyd pan oedd Cymru yn rhan o uwchgyfandirPangea ac yn wlad gwernydd yn agos i'r cyhydedd. Mae'r glo yn haen drwchus iawn, ond mae'n cynnwys haenau o dywodfaen a siâl hefyd. Mae natur y glo yn amrywio o un rhan o'r maes i'r llall. Yn Sir Gaerfyrddin, ceid glo carreg, tra'r oedd glo Cwm Rhondda yn lo ager, a ddefnyddid ar gyfer llongau ager.[2]