Llenyddiaeth Gatalaneg

Tirant lo Blanc, gan Joanot Martorell, argraffiad 1490

Mae llenyddiaeth Gatalaneg yn llenyddiaeth gyda hanes hir iddi, a ysgrifennir yn yr iaith Gatalaneg, iaith frodorol Catalwnia.

Mae hanes llenyddiaeth Gatalaneg yn dechrau yn yr Oesoedd Canol. Yn y 19g dosbarthwyd y llenyddiaeth honno mewn cyfnodau gan ysgrifenwyr Rhamantaidd y mudiad deffroad cenedlaethol a elwir yn Renaixença ('Adfywiad' neu 'Dadeni'). Roedd y llenorion hyn yn ystyried canrifoedd hir y Decadència, a olynodd Oes Aur llenyddiaeth Valencia, fel cyfnod o dlodi creadigol heb fawr ddim o werth. Erbyn, fodd bynnag, mae newid barn wedi digwydd wrth i'r Catalwniaid ail-ystyried eu hanes yn gyffredinol. Ar ôl adfywiad y 19g wynebai llenyddiaeth Gatalaneg amser anodd ar ddechrau'r 20g, yn arbennig yn ystod Rhyfel Cartref Sbaen. Gorfodwyd nifer o fedddylwyr gorau'r wlad i ffoi i alltudiaeth a bu rhaid aros tan yr adferwyd democratiaeth yng Nghatalonia ar ddiwedd y ganrif honno i lenyddiaeth a diwylliant Catalwnia adennill eu lle yn y gymdeithas.

Gwreiddiau

Datblygodd yr iaith Gatalaneg, sy'n un o'r ieithoedd Romáwns, o Ladin Cyffredin yn yr Oesoedd Canol, gan dyfu'n iaith ar wahân. Dechreuodd llenyddiaeth Gatalaneg gyda'r testun crefyddol defosiynol Homilies d'Organyà (diwedd yr 11eg neu ddechrau'r 12g.

Cydnabyddir y llenor Ramon Llull (13g), fel un o lenorion mwyaf yr iaith Gatalaneg yn yr Oesoedd Canol a gychwynnodd draddodiad llenyddol Catalaneg a safai ar wahân i'r byd Ocitaneg ei iaith, a hefyd fel athronydd a bathwr nifer o eiriau newydd. Ymhlith ei weithiau ceir y Llibre de Meravelles (sy'n cynnwys y Llibre de les bèsties) a Blanquerna (sy'n cynnwys Llibre d'Amic e Amat, fersiwn Gatalaneg o'r chwedl a geir yn Gymraeg Canol dan yr enw Kedymdeithyas Amlyn ac Amic ac fel y ddrama Amlyn ac Amig gan Saunders Lewis yn yr 20g).

Yr Oesoedd Canol a'r Dadeni

Les quatre grans cròniques

Mae'r pedwar llyfr hyn, o'r 13eg a'r 14g, yn croniclo hanes brenhinoedd ac uchelwyr Aragon:

Tirant lo Blanc

Wedi ei ysgrifennu gan Joanot Martorell, mae Tirant lo Blanc yn rhamant arwrol a fu un o lyfrau mwyaf dylanwadol ei gyfnod, ac efallai'r llyfr mwyaf yn yr iaith Catalaneg tan y 19g.

Awduron eraill o'r cyfnod

La Decadència

Dyma'r enw ar y cyfnod rhwng y 15fed a'r 19g. Fe'i gelwir felly am fod yr iaith frodorol wedi syrthio allan o ffasiwn a choli nawdd yr uchelwyr. Gwelir hyn gan rai fel rhan o'r broses ehangach o Gastileiddio Sbaen a'r esgeuluso ar fuddiannau Aragon yn sgîl uno coronau Castile ac Aragon. O leiaf dyna oedd barn Rhamantwyr y Renaixença, ond heddiw mae newid barn ar werth llenyddol a diwylliannol y cyfnod yn digwydd.

Renaixença

Nid oedd y Rhamantwyr cynnar yng Nghatalonia a'r Ynysoedd Balearig yn barod i ddefnyddio'r Gatalaneg ond yn dewis llenydda yn Sbaeneg, ond bu newid gyda geni'r mudiad Renaixença fel rhan o'r adfywiad cenedlaethol yng Nghatalonia. Un o sefydlwyr y mudiad hwnnw oedd Bonaventura Carles Aribau gyda'i gerdd Oda a la Pàtria. Fel sawl mudiad Rhamantaidd cenedlaethol arall yn y cyfnod, troes y Renaixença at yr Oesoedd Canol am ysbrydoliaeth, ond ar yr un pryd ceisiai gyfoethogi'r iaith a'i moderneiddio. Roedd realaeth a naturiaeth yn ddylanwadau pwysig hefyd. Un arall o lenorion y mudiad oedd Jacint Verdaguer, awdur epig genedlaethol y wlad.

Moderniaeth

Roedd moderniaeth Gatalaneg yn olynydd naturiol i'r Renaixença, gan ddal i arddangos diddordeb mewn Rhamantiaeth ond ar yr un pryd yn ymddiddori mewn themau duach, fel trais ac elfennau duach natur. Ym myd barddoniaeth, roedd yn dilyn yn agos y Parnassiaid a'r Symboliaid. Rhennid y mudiad yn Bohèmia Negra, dan ddylanwad y Decadentiaid, a llenorion mwy asthetaidd, a elwir yn Bohèmia Daurada neu Bohèmia Rosa. Mae Santiago Rusiñol, Joan Maragall a Joan Puig i Ferreter ymhlith y llenorion pwysicaf a gysylltir a'i mudiad.

Noucentisme

Daeth y mudiad diwydiannol a gwleiddyddol a elwir yn Noucentisme i'r amlwg ar ddechrau'r 20g. Roedd ei Glasuriaeth yn adwaith i waith y modernwyr ac yn seiledig ar athroniaeth natur-ganolog, a geisiai greu lenyddiaeth gain. Barddoniaeth oedd hoff gyfrwng Noucentisme, fel a welir yng ngherddi Josep Carner a Carles Riba.

Llenyddiaeth Gatalaneg gyfoes

Ar ôl cyfnod o obaith a thyfiant cyf;ym, daeth Rhyfel Cartref Sbaen a llywodraeth Francisco Franco a arweiniodd at alltudiaeth i nifer o lenorion, a gwaharddwyd defnydd cyhoeddus o'r iaith Gatalaneg, ynghyd â symbolau cenedlaethol a sawl agwedd arall ar ddiwylliant Catalwnia. Mewn canlyniad, mewn gwledydd estron y cynhyrchwyd y rhan fwyaf o lenyddiaeth Gatalaneg y cyfnod. Ar ôl cwymp Ffranco a'r adfywiad mewn democratiaeth, mae bywyd llenyddol a'r iaith Gatalaneg yn blodeuo eto.

Mae llenorion o'r cyfnod hwn yn cynnwys Mercè Rodoreda, Salvador Espriu, Manuel de Pedrolo a Quim Monzó.

Llyfryddiaeth ddethol

  • Comas, Antoni. La decadència. Sant Cugat del Vallès: A. Romero, 1986.
  • Elliott, J.H. Imperial Spain 1469-1716. Llundain: Penguin, 2002.
  • Riquer, Martí de. Història de la literatura catalana. 6 cyf. Barcelona: Editorial Ariel, 1980.
  • Terry, Arthur. A Companion to Catalan Literature. Woodbridge, Suffolk / Rochester, N.Y. : Tamesis, 2003.

Gweler hefyd

Dolenni allanol

Cyffredinol

E-lyfrau (ffeiliau PDF, Saesneg)