Llenyddiaeth Ffrangeg Ffrainc

Llenyddiaeth Ffrangeg Ffrainc
Rhan ollên Ffrainc, llenyddiaeth Ffrangeg Edit this on Wikidata
IaithFfrangeg Edit this on Wikidata
Charlemagne a Louis le Pieux, yn Grandes Chroniques de France

Datblygodd Hen Ffrangeg, y ffurf gynharaf ar yr iaith, o Ladin llafar yn y 8g, gyda rhywfaint o ddylanwad gan eirfa'r Aleg a'r Germaneg. Erbyn y 9g, roedd iaith y werin yn ddigon wahanol i'w hystyried yn iaith wahanol ar Ladin. Y testun hynaf yn Hen Ffrangeg ydy Llwon Strasbwrg (842), a ysgrifennwyd yn Lladin Ganoloesol, Hen Ffrangeg neu Alaidd-Romáwns, ac Hen Uchel Almaeneg.

Oesoedd Canol

Yn yr Oesoedd Canol, barddoniaeth oedd y brif ffurf lenyddol yn Ffrainc, a bu'r arwrgerdd a'r chanson de geste (cân am gampau dewr) yn boblogaidd. Mae nifer o'r cerddi hyn yn ymwneud ag hanes traddodiadol Ffrainc, yn enwedig oes Siarlymaen. Y gwaith uchaf ei glod o gyfnod yr Hen Ffrangeg ydy La Chanson de Roland (Cân Rolant) o'r 11g, o bosib yr esiampl hynaf o chanson de geste, a draddoda hanes Rolant, un o gadfridogion Siarlymaen, a Brwydr Ronsyfal. Fel rhan o'r chwedloniaeth Gristnogol a dyfodd yn Ffrainc yn yr Oesoedd Canol, newidiodd gelyn go iawn y Rolant hanesyddol—y Basgiaid—yn Fwslimiaid. Yn y 12g, cychwynnodd traddodiad y trwferiaid, y beirdd crwydrol yn langues d'oïl a gyfatebai i'r trwbadwriaid Ocsitaneg yn neheubarth Ffrainc. Cyfansoddant a pherfformiant delynegion a rhamantau llys.

Ffrangeg Canol

Yn y 14g datblygodd Hen Ffrangeg yn Ffrangeg Canol, y ffurf ar yr iaith a siaredid yn ystod y Dadeni Dysg yn Ffrainc. Dyma oedd cyfnod François Rabelais (bu farw 1553), awdur straeon dychanol Gargantua et Pantagruel, a gyflwynai'r grotésg a maswedd i lenyddiaeth Ffrangeg, yn ogystal â nifer o fenthyceiriau o ieithoedd eraill. Nodai'r Dadeni droad oddi ar lenyddiaeth sifalrig yr Oesoedd Canol, a thuag at ddigrifwch, dyneiddiaeth, a chlasuriaeth. Cyrhaeddai'r tuedd clasurol ei anterth yn yr 17g, yn enwedig ym myd y theatr. Blodeuai trasiediwyr megis Pierre Corneille a Jean Racine yn ogystal â'r comedïwr Molière. Ffynnai hefyd ysgolheictod ac athroniaeth yn Ffrangeg, a safonwyd yr iaith lenyddol gan yr Académie française a sefydlwyd yn 1635. Prif feddyliwr Ffrengig yr oes oedd René Descartes, a osodai sail i resymoliaeth yn athroniaeth Ffrainc yn ogystal â'i gyfraniadau i faes mathemateg.

Cyfnod Modern

Yn yr 17g hefyd mabwysiadodd y Ffrancod y salon, arfer a gychwynnodd yn yr Eidal, i hyrwyddo diwylliant llenyddol, celfyddydol, a deallusol. Byddai dynion, a rhai merched, dysgedig yn cyfarfod mewn ystafell, a ddarparwyd fel arfer dan nawdd rhyw foneddiges megis Madame de Rambouillet neu Madame de Sévigné, i drafod pynciau'r dydd, pigo meddyliau'i gilydd, a chyflwyno'u gwaith. Erbyn diwedd y ganrif, cychwynnodd yr Oleuedigaeth yn Ffrainc, mudiad diwylliannol gyda phwyslais ar ddefnyddio rheswm a gallu'r unigolyn i gyrraedd oes newydd o wyddoniaeth, llywodraeth ddelfrydol, a chymdeithas ddyneiddiol. Ymhlith hoelion wyth yr Oleuedigaeth oedd Voltaire, awdur Candide; yr ysgrifwr toreithiog Montesquieu; a'r gwyddoniadurwr Denis Diderot.

19g

Diffiniwyd y 19g gan wrthdaro rhwng Rhamantiaeth a realaeth. Mae ffuglen y Rhamantwyr, megis Victor Hugo, Alexandre Dumas, a George Sand, yn archwilio emosiynau, unigolyddiaeth, a'r berthynas rhwng y ddynolryw a natur. Yng nghanol y 19g, dechreuodd y realwyr megis Gustave Flaubert ac Honoré de Balzac gynrychioli'r byd heb ddelfrydoli na rhamanteiddio, gan geisio portreadu bywyd pob dydd yn fanwl gywir. Ar droad y ganrif, fel estyniad i realaeth, ymddangosodd mudiad naturiolaeth dan arweiniad Émile Zola, a arddelai benderfyniaeth, gwrthrychedd foesol, sylwebaeth gymdeithasol, a golygwedd wyddonol ar ffuglen.

20g

Yn debyg i nifer o wledydd eraill yn yr 20g, blodeuai sawl mudiad llenyddol yn Ffrainc, gan gynnwys dulliau chwyldroadol ac ymagweddau athronyddol cryf. Archwiliai themâu dirfodol yng ngweithiau ffuglen yr athronwyr Albert Camus a Jean-Paul Sartre, ac arbrofai Alain Robbe-Grillet a llenorion Nouveau Roman eraill gyda strwythur draethiadol y nofel. Cynyddodd yr arbrofi llenyddol wedi'r Ail Ryfel Byd, er enghraifft yn nramâu theatr yr absẃrd. Mae awduron diweddar yn cynnwys Michel Houellebecq, sy'n ymdrin â materion cymdeithasol a gwleidyddol yn ei nofelau.

Gweler hefyd