Pentref yng yng nghymuned Cwm Garw, bwrdeistref sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Cymru, yw Llangeinwyr[1] (Seisnigiad: Llangeinor).[2] Saif yn y Cymoedd tua 5 milltir i'r gogledd o dref Pen-y-bont ar Ogwr ei hun.
Rhed ffordd yr A4064 trwy'r pentref; i'r de mae'n arwain i gyfeiriad Ton-du, ac i'r gogledd i gyfeiriad Pontycymer. Mae'r A4093 yn cychwyn yn Llangeinwyr ac yn dringo dros y mynydd i Gwmogwr.
Cyhoeddwyd y pentref cyfan yn ardal gadwraeth yn ddiweddar.[3]
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Sarah Murphy (Llafur)[4] ac yn Senedd y DU gan Jamie Wallis (Ceidwadwyr).[5]
Pobl enwog
Roedd y bardd ac achyddwr Dafydd Benwyn (bl. ail hanner yr 16g) yn frodor o Langeinwyr, yn ôl pob tebyg. Roedd Llangeinwyr hefyd yn fan geni Richard Price, yr athronydd Cymreig a roddodd lwyfan i waith mathemategol Thomas Bayes ac a osododd sylfaen marchnad rydd yr Unol daleithiau yn ei le.
Cyfeiriadau