Dynes trin gwallt ac ymgyrchydd o Gaerfyrddin oedd Elizabeth Myrtle "Liz" Evans, MBE (m. Rhagfyr 2004).[1] Ysbrydolwyd y ffilm 2022 Save the Cinema gan fywyd Elizabeth.[2]
Ganwyd Liz yng Nghaerfyrddin. Priododd â David a ganwyd iddynt dri mab: Huw, Mark a Wynne Evans.[1] Roedd hi'n sylfaenydd Opera Ieuenctid Caerfyrddin. Adnabyddid hi yng Nghaerfyrddin fel "Liz y Lyric".[1] Bu farw yn 60 oed o niwmonia.[3]
Cyfeiriadau