Pêl-droediwr o'r Ariannin ydy Lionel Messi (ganwyd Lionel Andrés Messi 24 Mehefin 1987) sy'n chwarae i glwb Inter Miami yn y MLS ac i dîm pêl-droed cenedlaethol Yr Ariannin.
Pan yn 11 cafwyd fod Messi yn dioddef o ddiffyg hormon tyfiant a cytunodd Barcelona i dalu'r $900 oedd ei angen am y triniaeth ar yr amod ei fod yn symud i Sbaen ac yn ymuno ag Academi'r clwb[2].
Gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf i Barcelona yn erbyn Espanyol ar 16 Hydref 2004 yn 17mlwydd ac 114 diwrnod oed gan ddod y trydydd chwaraewr ieuengaf i chwarae dros y clwb yn La Liga, record fyddai'n cael ei dorri gan Bojan Krkić ym Medi 2007.
Yn 21 mlwydd oed cafodd ei enwebu ar gyfer gwobrau'r Ballon d'Or a Chwaraewr y Flwyddyn FIFA ac yn 2009 casglodd y cyntaf o'i wobrau Ballon d'Or cyn ennill y wobr eto yn 2010, 2011 a 2012.
Daeth yn brif sgoriwr yn holl hanes Barcelona ar 16 Mawrth 2014 pan sgoriodd hat-tric yn erbyn Osasuna[3].
Gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf i'r Ariannin yn 2005 yn 18 mlwydd oed yn erbyn Hwngari, ond wedi dod i'r maes fel eilydd wedi 63 munud, cafodd ei hel o'r maes dau funud yn ddiweddarach am drosedd[4] a chasglodd fedal aur yng Ngemau Olympaidd 2008 yn Beijing.
Cyfeiriadau