Cantores, actores a phersonoliaeth teledu o Iwerddon oedd Linda Nolan (23 Chwefror 1959 – 15 Ionawr 2025).
Cafodd ei geni yn Nulyn, yn ferch i Tommy a Maureen Nolan.[1]Symudodd Linda gyda’i theulu i Blackpool yn dair oed ym 1962. Daeth yn enwog fel aelod o’r grŵp merched The Nolans yn 1974, ynghyd â’i chwiorydd Anne, Denise, Maureen, Bernie (m. 2013) a Coleen.
Ar ôl gadael y grŵp, cefnogodd Nolan Gene Pitney ar ei daith drwy wledydd Prydain yn 1984. Aeth ymlaen i berfformio yn y theatr yn Blackpool rhwng 1986 a 1995. Yn 2014, cymerodd ran yn y drydedd gyfres ar ddeg o Celebrity Big Brother. Yn 2018, roedd hi'n banelydd gwadd cyson ar Loose Women.
Bu farw o ganser y fron yn 65 oed.[2]
Cyfeiriadau