Prifddinas a dinas fwyaf Periw yw Lima. Saif yng nghanolbarth y wlad, ger yr arfordir yn nyffrynnoedd afonydd Chillón, Rímac a Lurín. Gyda phorthladd Callao mae'n ffurfio Adral Ddinesig Lima.
Sefydlwyd y ddinas gan y concwistador Sbaenig Francisco Pizarro ar 18 Ionawr1535, fel Ciudad de los Reyes. Daeth yn brifddinas y Virreinato del Perú yn ystod cyfnod yr ymerodraeth Sbaenig, yna wedi annibyniaeth daeth yn brifddinas Gweriniaeth Periw. Mae 26.6% o boblogaeth Periw yn byw yn yr Ardal Ddinesig, tua 8,447,260.
Cyhoeddwyd canol hanesyddol Lima yn Safle Treftadaeth y Byd gan UNESCO yn 1988, pherwydd y nifer fawr o adeiladau hanesyddol o gyfnod ymerodraeth Sbaen, yn arbennig y Plaza Mayor, a'r eglwys gadeiriol o'r 16g.