Austin
Austin | | Math | dinas yn yr Unol Daleithiau, dinas fawr, tref ddinesig |
---|
Enwyd ar ôl | Stephen F. Austin |
---|
| Poblogaeth | 961,855 |
---|
Sefydlwyd | - 1835
|
---|
Pennaeth llywodraeth | Kirk Watson |
---|
Cylchfa amser | UTC−06:00, UTC−05:00 |
---|
Gefeilldref/i | |
---|
Daearyddiaeth |
---|
Sir | Travis County |
---|
Gwlad | Unol Daleithiau America |
---|
Arwynebedd | 827.51276 km², 790.107506 km² |
---|
Uwch y môr | 149 ±1 metr |
---|
Cyfesurynnau | 30.3°N 97.7333°W |
---|
Cod post | 78701–78705, 78708–78739, 78741–78742, 78744–78769, 78701, 78704, 78709, 78711, 78714, 78717, 78719, 78722, 78724, 78728, 78730, 78734, 78737, 78742, 78746, 78749, 78751, 78752, 78757, 78759, 78760, 78763, 78765, 78769 |
---|
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Maer Austin |
---|
Pennaeth y Llywodraeth | Kirk Watson |
---|
| | |
Austin yw prifddinas y dalaith Americanaidd, Texas, Unol Daleithiau. Dyma yw'r bedwaredd ddinas fwyaf yn Texas a'r unfed ar ddeg ddinas fwyaf yn yr Unol Daleithiau. Yn ogystal â hyn, Austin oedd y drydedd ddinas a ehangodd gyflymaf yn y wlad rhwng 2000 a 2006. Mae gan Austin boblogaeth o 790,390. Y ddinas yw canolbwynt diwylliannol ac economaidd yr ardal metropolitanaidd Austin–Round Rock gyda phoblogaeth o tua 1.6 miliwn o bobl.
Sefydlwyd yr ardal yn ystod y 1830au ar lannau'r Afon Colorado gan ymgartrefwyr gwyn, a alwodd y pentref yn Waterloo. Ym 1839, dewiswyd Waterloo fel prif ddinas Gweriniaeth Texas a oedd newydd gael ei hannibyniaeth. Ail-enwyd y ddinas yn Austin ar ôl Stephen F. Austin. Tyfodd y ddinas trwy gydol y 19g a daeth yn ganolfan ar gyfer y llywodraeth ac addysg wrth i Gapitol Talaith Texas a Phrifysgol Texas gael eu sefydlu yno. Wedi cyfnod o ddiffyg twf ar ôl y Dirwasgiad Mawr parhaodd Austin ei datblygiad i fod yn ddinas a oedd yn ganolbwynt technoleg a busnes.
Gefeilldrefi Austin
Dolenni Allanol
|
|