Tref yn Iwerddon yw Lifford (Gwyddeleg: Leifear),[1] sy'n dref sirol Swydd Donegal (Contae Dhún na nGall) yn nhalaith Wlster, Gweriniaeth Iwerddon. Fe'i lleolir yng ngogledd yr ynys bron am y ffin rhwng y Weriniaeth a Gogledd Iwerddon, gyda Strabane yn gorwedd tua 2 filltir i'r dwyrain ar draws y ffin.
Mae'n gorwedd ar groesffordd gyda ffyrd yn ei chysylltu â Strabane i'r dwyrain, Donegal i'r de-orllewin, Letterkenny i'r gorllewin a Derry i'r gogledd-orllewin.