Roedd Lewis Jones (30 Ionawr 1836 - 24 Tachwedd 1904) yn un o brif sylfaenwyr Y Wladfa ym Mhatagonia.
Ganed Lewis Jones yng Nghaernarfon a bu'n gweithio fel argraffydd yng Nghaergybi lle bu'n cyd-olygu Y Punch Cymraeg (1858-60). Yn ddiweddarach symudodd i Lerpwl. Daeth yn un o brif arweinwyr y Mudiad Gwladfaol, ac yn 1862 aeth ef a'r Capten Love Jones-Parry i Batagonia i weld a oedd yr ardal yn addas ar gyfer sefydlwyr Cymreig. Dychwelodd gyda adroddiad ffarfriol dros ben - rhy ffafriol fel y gwelwyd yn nes ymlaen.
Aeth Lewis Jones ac Edwin Cynrig Roberts i Batagonia i baratoi ar gyfer y sefydlwyr, ac roedd yno i'w croesawu pan laniodd y Mimosa. Bu cweryl pan gwynodd rhai o'r fintai nad oedd y wlad mor addas ag roedd Lewis Jones wedi ei adrodd, a symudodd yntau i Buenos Aires i weithio fel argraffydd am gyfnod. Pan oedd rhai o'r Cymry yn bwriadu gadael Patagonia yn 1867 dychwelodd i'w perswadio i aros. Dechreuodd wasg argraffu yn y Wladfa, a chyhoeddodd ddau bapur newydd yno, Ein Breiniad ac Y Drafod. Bu yn rhaglaw dros lywodraeth Ariannin am gyfnod, ond bu hefyd yng ngharchar am amddiffyn hawliau'r Cymry.
Rhoddodd Lewis Jones ei enw i un o sefydliadau cyntaf y Cymry ym Mhatagonia, sef Trelew. Daeth ei ferch, Eluned Morgan, yn un o lenorion amlycaf y Wladfa.
Y person
Lluniau eraill
-
"Plas Hedd" cartref Lewis Jones tua ca.1890, a leolwyd ger Rawson, Chubut, ac a adeiladwyd tua 1891; dymchwelwyd yn 1899.
-
Tŷ Lewis Jones yn Nhrelew, rhwng 1900 a 1920.
-
Gorsaf reilffordd Trelew tua 1915
-
Murlun a godwyd ar dŷ Lewis Jones gan y gymuned leol
-
Clawr papur a sgwennwyd gan Lewis: Ymfudiaeth y Cymry
-
Llythyr gan Lewis at ei gydwladwyr ynghylch Gweithredoedd Tir; 19 Mawrth 1881
-
Bedd Lewis yn dilyn seremoni coffa yn 2015
Gweler hefyd
Cyfeiriadau
Y Bywgraffiadur Cymreig hyd 1940 (Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion)
Dolenni allanol