Bu'n byw yng Nglyn Ceiriog lle priododd ferch leol, a bu farw yn Wrecsam. Yn ôl yr Athro Gareth Ffowc Roberts, "Roedd ganddo ddiddordeb arbennig yn y Gymraeg... aeth ati o ddifrif i geisio'i meistroli." Yn 1957 priododd Jane Roberts, prifathrawes gynradd yn Nyffryn Ceiriog.[1]
Datblygodd y broga crafanc Affricanaidd (enw gwyddonol: Xenopus laevis) fel organeb enghreifftiol ar gyfer ymchwil fiolegol yn gynnar yn ei yrfa, ymosododd ar y mudiad ewgeneg yng nghanol ei yrfa, a phoblogeiddiodd lyfrau ar wyddoniaeth, mathemateg ac iaith ar ddiwedd ei yrfa.[2][3][4][5]
Bywyd cynnar
Cafodd Hogben ei eni a'i fagu yn Southsea ger Portsmouth yn Hampshire, Lloegr i rieni efengylaidd iawn; bu farw ei dad pan oedd Lancelot yn 11 oed. Yn ddyn ifanc, torrodd yn rhydd o grafangau crefyddol y teulu. Yn 1907, symdodd y teulu i Stoke Newington, Llundain, lle mynychodd Ysgol Sir Tottenham; yn wir, roedd ei fam wedi'i geni a'i magu yn yr ardal.
Academia
Yn fyfyriwr meddygol, astudiodd ffisioleg yn Ngholeg y Drindod, Caergrawnt,[3] lle graddiodd ym 1916, (gradd Gyffredin). Erbyn hyn roedd yn sosialydd i'r carn: newidiodd enw'r Fabian Society i'r 'Gymdeithas Sosialaid'.[6] Dau ddylanwad mawr arno yn y cyfnod hwn oedd y Marcsydd William Morris a'r Sosialydd Cymreig o'r Drenewydd, Robert Owen.
Wedi graddio, bu'n darlithio yn Llundain, cyn symud i Gaeredin i wneud gradd ymchwil ar anifeiliaid ac yna ymlaen i Brifysgol MacGill yng Nghanada, cynn iddo gael ei benodi'n Athro Swoleg ym Mhrifysgol Tref y Penrhyn (Cape Town), De Affrica lee gweithiodd ar lyffantod a phrofion beichiogrwydd menywod.[7] Gwrthwynebodd bolisi apartheid De Affrica yn ddigyfaddawd a symudoddodd yn 1930 i Ysgol Economeg Llundain fel Athro Bywydeg Cymdeithas lle gwnaeth waith pwysig mewn geneteg.
Cydwybod cymdeithasol
Roedd yn aelod gweithgar o'r Blaid Lafur Annibynnol, ac yn wrthwynebydd cydwybodol, fel y nodwyd. Yn 1958 ymunodd gyda'r Crynwyr. Ond yn ddiweddarach, roedd yn well ganddo ddisgrifio'i hun fel 'dyneiddiwr gwyddonol' yn hytrach nac fel 'sosialydd'.[8]
Roedd gan Hogben egwyddorion solat, ac un o'r rhai mwyaf cadarn oedd ei sosialaeth: credai y gallai mathemateg fod yn arf yn nwylo'r werin bobol er mwyn iddynt fedru rheoli eu tynged eu hunain.[9] Ar ôl iddo ddod i adnabod Cymru, dyfnahodd ei gydwybod cymdeithasol a'i ymdeimlad o anhegwch o fewn y gymdeithas. Canlyniad hyn oedd y cafwyd "min ac awch", chwedl yr Athro Gareth Ffowc Roberts, ar ei waith.
Y ddau Ryfel Byd
Y Rhyfel Byd Cyntaf
Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf roedd yn heddychwr a gweithiodd am chwe mis gyda'r Groes Goch yn Ffrainc, dan adain Gwasanaeth Rhyddhad Dioddefwyr Rhyfel y Cyfeillion ac yna Uned Ambiwlans y Cyfeillion. Yna dychwelodd i Gaergrawnt, a chafodd ei garcharu yn Wormwood Scrubs fel gwrthwynebydd cydwybodol ym 1916, yn un deg chwech oed. Wedi cyfnod o waeledd, rhyddhawyd ef ym 1917. Roedd ei frawd George hefyd yn wrthwynebydd cydwybodol ac yn gwasanaethu gydag Uned Ambiwlans y Cyfeillion.
Priododd Hogben ym 1918 â'r mathemategydd, ystadegydd, a ffeminist Enid Charles o Ddinbych, a chawsant ddau fab a dwy ferch.[3] Fel y nodwyd, ailbriododd yn 1957 gyda Janes Roberts, prifathrawes gynradd yn Nyffryn Ceiriog.
Yr Ail Ryfel Byd
Gorfodwyd Hogben i weithio fel ystadegydd ym myddin Lloegr, a gwrthododd wisgo lifrai. Trodd ei heddychiaeth a'i ddaliadau yn ei erbyn, yn academia. Gweithiodd yn Napoli ar gyffuriau gwrtheiotig a sut y gall gorddefnydd o'r cyfuriau beri i facteria esblygu'n superbugs na ellir mo'u difa ee MRSA.
Gadawodd y fyddin yn 1942 ac aeth i weithio fel Athro Swoleg ym Mhrifysgol Birmingham.
Roedd gwaith Lancelot (a oedd bryd hynny yn Birmingham) ac Enid wedi eu cadw ar wahân drwy'r Ail Ryfel Byd a daeth eu perthynas dan straen. I geisio closio, prynnodd dŷ yng Nglyn Ceiriog, ond daeth eu perthynas i ben yn 1953.
Political Arithmetic: A Symposium of Population Studies (1938) golygydd
Dangerous Thoughts (1939)
Author in Transit (1940)
Principles of Animal Biology (1940)
Interglossa: A Draft of an Auxiliary for a Democratic world order, Being an Attempt to Apply Semantic Principles to Language Design (1943)
The Loom of Language: A Guide To Foreign Languages For The Home Student gan Frederick Bodmer (1944), ac a olygwyd gan Hogben, Primers ar gyfer The Age of Plenty - No. 3.
An Introduction to Mathematical Genetics (1946)
History of the Homeland: The Story of the British Background gan Henry Hamilton (1947), edited by Hogben, Primers for the Age of Plenty - No. 4.
The New Authoritarianism (1949) Conway Memorial Lecture 1949[13]
From Cave Painting To Comic Strip: A Kaleidoscope of Human Communication (1949)
Chance and Choice by Cardpack and Chessboard (1950)
Man Must Measure: The Wonderful World of Mathematics (1955)
Statistical theory. The relationship of probability, credibility and error. An examination of the contemporary crisis in statistical theory from a behaviorist viewpoint (1957)
↑ 3.03.13.2Bud, Robert (2004). "Lancelot Hogben". The Oxford Dictionary of National Biography (Oxford University Press) 1. doi:10.1093/ref:odnb/31244.
↑Tabery, J. (2008). "R. A. Fisher, Lancelot Hogben, and the origin(s) of genotype-environment interaction". Journal of the History of Biology41 (4): 717–761. doi:10.1007/s10739-008-9155-y. PMID19244846.
↑Cyfri'n Cewri; t. 78. Gwasg Prifysgol Cymru (2020).
↑Cyfri'n Cewri; t. 79. Gwasg Prifysgol Cymru (2020).
↑
Kunitz, Stanley J. a Haycraft, Howard Awduron yr Ugeinfed Ganrif, Geiriadur Bywgraffyddol Llenyddiaeth Fodern , (Trydydd Argraffiad). Efrog Newydd, The H.W. Cwmni Wilson, 1950, (tt. 658–59)
↑Cyfri'n Cewri; t. 84. Gwasg Prifysgol Cymru (2020).