Math o gar trydan moethus a gaiff ei gynhyrchu yn 2021 gan Aston Martin yw'r Lagonda. Mae'r enw 'Lagonda' yn mynd nôl i 1909 (neu o bosib 1906) pan gychwynodd y canwr opera Wilbur Gunn gwmni ceir. Enwodd Gunn ei gwmni ar ôl afon a lifai drwy'r ardal lle'i maged yn Springfield, Ohio. Prynnwyd y cwmni gan Aston Martin yn 1947 ac ers hynny, rhyddhawyd sawl car o dan yr enw yma: yn 1995 hyd at 2008 a rhwng 2010 a 2013.[1][2]
Y car diweddaraf
Vision concept yw'r car ar hyn o bryd (2018), hy car sydd wedi'i gynllunio ac sydd ar y gweill. Mae'r cynllun yn un sy'n cystadlu gyda chwmni Tesla, a does dim rhyfedd i sefydlydd Tesla, Elon Musk alw Aston Martin yn "a 110 year old start-up". Dywedir y bydd y car yn medru teithio am 400 milltir cyn fod yn rhaid gwefru'r batris, a'u gwefru yn ddi-wifr hyn heb weiren. Cynlluniwyd y tu mewn i'r car gan David Armstrong-Jones, mab y ffotograffyddAntony Armstrong-Jones.
Y ceir cynnar
Yn 1907 lansiodd Wilbur Gunn ei gar cyntaf, y Torpedo, gyda nerth 20 marchnerth a 6-silindr, a ddefnyddiodd i ennill ras 'Moscow-Sant Petersburg' yn 1910. Yn dilyn y llwyddiant hwn cafwyd llawer o archebion o Rwsia - hyd at y Rhyfel Byd Cyntaf yn 1914.[3][4]
Lagonda 16/65, 1927
Lagonda 16 80, 1930au
Lagonda M45 T9 Rapide. 1934
Lagonda V12 Drophead Coupé, 1940
Fodd bynnag, aeth yr hwch drwy'r siop yn 1935 a phrynnwyd y cwmni gan Alan P. Good. Efallai mai uchafbwynt y cyfnod a ddilynodd yr ailbrynnu hwn oedd yn 1937 pan lansiwyd car 4480 cc gyda marchnerth o 180 bhp (130 kW) a allai gyflymu o 7 i 105 mya (11 i 169 km/h) yn y ger uchaf gan refio i 5000 rpm. Fe'i arddangoswyd yn Sioe Geir Efrog Newydd yn 1939 a gwerhwyd ef am $8,900 - y car drytaf ledled y byd, yn ei gyfnod.
Aston Martin
Ym 1947 cafodd Lagonda ac Aston Martin eu prynnu gan David Brown (cwmni o Loegr a oedd yn arbenigo mewn tractors, cychod y rhannau o beiriannau) ac unwyd staff Lagonda gydag Aston Martin yn eu ffatri yn Feltham, Middlesex.
Lagonda 2.6, 1953
Lagonda Rapide, 1964
Aston Martin Lagonda Sports Sedan, 1989
Yr atgyfodiad
Ceisiwyd atgyfodi'r marque (y brand) sawl tro gan gynnwys:
Yn Sioe Modur Genefa 2009, dadorchuddiodd Aston Martin 4VD, SUV 4-sedd i goffáu 100 mlynedd ers car cyntaf Lagonda. Roedd gan y car beiriant V12 ac olwynion 22 modfedd.[5]
Bedyddiwyd un model o wneuthuriad Aston Martin gyda'r hen enw Rapide yn 2010, sef yr Aston Martin Rapide.
Yn 2014, cyhoeddodd Aston Martin y bydden nhw'n cynhyrchu nifer cyfyngedig o 200 salwn o'r enw'r Taraf am tua £1 miliwn yr uned, wedi'i bweru gan Tyrbo Dwbwl V12 a allai gynhyrchu 540 HP a 465 lb-tr o drorym (torque).
Yn 2018 cyhoeddwyd y bydden nhw'n cynhyrchu car trydan (gweler uchod).