L. J. Smith |
---|
|
Ffugenw | L. J. Smith |
---|
Ganwyd | 4 Medi 1965 Fort Lauderdale |
---|
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
---|
Alma mater | - Prifysgol Califfornia, Santa Barbara
- Prifysgol San Francisco
|
---|
Galwedigaeth | llenor, nofelydd, awdur plant, sgriptiwr, awdur ffuglen wyddonol |
---|
Adnabyddus am | The Vampire Diaries, Night World |
---|
Arddull | Rhamant, ffantasi, cyfriniaeth, llenyddiaeth arswyd, gwyddonias |
---|
Gwefan | http://www.ljanesmith.net/ |
---|
Awdures Americanaidd yw L. J. Smith (ganwyd 4 Medi 1965 ) sy'n nofelydd, yn awdur ffuglen plant ac yn sgriptiwr. Ymhlith y gwaith pwysig a nodedig yr ysgrifennodd y mae: The Vampire Diaries a addaswyd ar gyfer y teledu, a Night World.[1]
Fe'i ganed yn Fort Lauderdale, Orange County, California. Wedi gadael yr ysgol mynychodd Brifysgol Califfornia, Santa Barbara a Phrifysgol San Francisco.[2][3][4]
Magwraeth
Fel plentyn, cafodd ei magu yn Villa Park, California a mynychodd Ysgol Uwchradd Villa Park. Yma y rhoddodd Zoe Gibbs, athrawes Saesneg ei hysgol uwchradd, yr hyder i Smith ysgrifennu.[5]
Astudiodd Smith seicoleg arbrofol ym Mhrifysgol California, Santa Barbara. Yn ddiweddarach, aeth i Brifysgol Talaith San Francisco i gael cymwysterau addysgu (tystysgrif athro).[1][6]
Dechreuodd Smith ei gyrfa fel athro ysgol elfennol, ond gadawodd ym 1989 ar ôl tair blynedd i ddilyn gwaith ysgrifennu creadigol.[5][7]
Dywedodd Smith iddi sylweddoli ei bod am fod yn awdur rywbryd rhwng y kindergarten a'r flwyddyn gyntaf o'r ysgol uwchradd, "pan ganmolodd athro cerdd ofnadwy roeddwn i wedi'i hysgrifennu", a dechreuodd ysgrifennu o ddifrif yn yr ysgol uwchradd.[8][9]
Yr awdur
The Night of the Solstice, oedd ei llyfr cyntaf i gael ei gyhoeddi, llyfr a sgwennodd wrth drawsnewid o'r ysgol uwchradd i'r brifysgol.[10]. Fe'i cyhoeddwyd gan MacMillan yn 1987, ac wrth ei sodlau cyhoeddwyd Heart of Valor (1990). Wnaethon nhw ddim gwerthu yn arbennig o dda, gan eu bod wedi eu labelu'n addas ar gyfer plant 9-11 oed.[10]
Anrhydeddau
Cyfeiriadau