Kiri Pritchard-McLean

Kiri Pritchard-McLean
Ganwyd6 Tachwedd 1986 Edit this on Wikidata
Caerloyw Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethdigrifwr, master of ceremonies, digrifwr stand-yp Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.kiripritchardmclean.co.uk/ Edit this on Wikidata

Digrifwraig yw Kiri Pritchard-McLean (ganwyd Kiri McLean; 6 Tachwedd 1986). Fe'i ganed yng Nghaerloyw, ac fe'i magwyd ar fferm yn Ynys Môn. Mae wedi perfformio am sawl blwyddyn yn olynol yn Ngŵyl Ffrinj Caeredin ac mae wedi ennill dwy wobr Chortle. Mynychodd Ysgol Friars ym Mangor.

Gyrfa gomedi

Hi yw cyfarwyddwr ac awdur y grŵp sgets Gein's Family Giftshop a enwebwyd am Newydd-ddyfodiad Gorau, Gwobrau Comedi Caeredin yn 2014.[1] Fel grŵp sgets, cawsant eu henwebu hefyd ar gyfer Gwobrau Chortle yn 2015. Cymerodd ei sioe gyntaf Hysterical Woman i Ŵyl Frinj Caeredin yn 2016.[2] Trosglwyddodd i'r Soho Theatre ar gyfer rhediad ym mis Mehefin 2017. Enw ei sioe yn Frinj Caeredin 2017 oedd Appropriate Adult ac enw sioe 2018 oedd Victim, Complex. Cafodd y ddwy sioe eu canmol gan feirniaid ac fe'u trosglwyddyd hefyd i'r Soho Theatre y flwyddyn ganlynol.

Mae Pritchard-McLean wedi ymddangos ar Have I Got News for You[3], sioe Stand Up Russell Howard ar Comedy Central ac Elevenish ar ITV; yn ogystal â sawl ymddangosiad ar raglenni BBC Radio 4, The Now Show, The News Quiz a sioe Ellis James, State of the Nation.

Mae hi hefyd yn gyd-gyflwynydd y podlediad All Killa No Filla ynghyd â'i chyd-gomedïwr Rachel Fairburn.[4]

Yn 2019 daeth Pritchard-McLean yn gyflwynydd y sioe sgets ddychanol ar BBC Radio 4 Newsjack.[5] Mae hi'n cyflwynu'r gyfres BBC TV Flashback ers Ionawr 2022.[6]

Gwobrau comedi

Enillodd y Compere Orau a'r Digrifwr Clwb Gorau yn y Chortle Awards yn 2018.[7]

Sylwadau ar Annibyniaeth

Mewn trafodaeth ar destun annibyniaeth i'r gwledydd Celtaidd ar raglen deledu y BBC, The New World Order dan ofal y comediwr Albanaidd, Frankie Boyle ar 1 Hydref 2020, rhoddodd Kiri sylwadau ar y sefyllfa yng Nghymru. Dywedodd, "I know there is definitely a growing sense of momentum behind independence [yng Nghymru] but also, I think, Wales lacks confidence as a country."[8]

Cyfeiriadau

  1. Logan, Brian (2015-08-14). "Edinburgh comedy roundup: the best of the rest – week one". The Guardian (yn Saesneg). ISSN 0261-3077. Cyrchwyd 11 Mai 2017.
  2. Logan, Brian (28 Ebrill 2017). "Hysterical Woman: the standup show addressing sexism in comedy". The Guardian (yn Saesneg). ISSN 0261-3077. Cyrchwyd 11 Mai 2017.
  3. "Have I Got News for You - S56 - Episode 3". Radio Times (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-10-20. Cyrchwyd 2018-10-20.
  4. Hershon, Marc (2016-03-18). "Podcast Reviews: I Am Rapaport & All Killa No Filla". Huffington Post (yn Saesneg). Cyrchwyd 2017-05-11.
  5. "New presenters announced for BBC Radio 4 Extra's Newsjack and Comedy Club" (yn Saesneg). BBC Media Centre. 12 Rhagfyr 2018. Cyrchwyd 12 Rhagfyr 2018.
  6. "Kiri Pritchard-McLean announced as new presenter of TV Flashback". BBC Media Centre (yn Saesneg). 10 Rhagfyr 2021. Cyrchwyd 19 Ionawr 2022.
  7. "Chortle Awards 2018: The results". Chortle (yn Saesneg). Chortle Awards. Cyrchwyd 22 Ebrill 2018.
  8. https://twitter.com/PhantomPower14/status/1311801825520226304