Darlunydd llyfrau plant ac awdures o Loegr oedd Catherine Greenaway (17 Mawrth 1846 – 6 Tachwedd 1901) neu Kate Greenaway fel ei adnabyddir.
Sefydlwyd Medal Kate Greenaway i'w hanrhydeddu ym 1955, gwobrwyir hi'n flynyddol i ddarlunydd llyfrau plant y Deyrnas Unedig, gan y Chartered Institute of Library and Information Professionals.
Roedd yn byw mewn tŷ a chomisiynodd gan Richard Norman Shaw, mewn steil y symundiad celf a chrefft, yn Frognal, Llundain, ond treuliodd hafau ym mhentref Rolleston yn Swydd Nottingham. Bu farw o gancr y fron ym 1901 a chladdwyd ym Mynwent Hampstead, Llundain.
Cyfeiriadau
- Ina Taylor, The Art of Kate Greenaway: A Nostalgic Portrait of Childhood London (1991)
Dolenni allanol