Jules Supervielle |
---|
|
Ganwyd | Julio Luis Supervielle 16 Ionawr 1884 Montevideo |
---|
Bu farw | 17 Mai 1960 Paris, 16ain bwrdeistref Paris |
---|
Man preswyl | Wrwgwái, Ffrainc |
---|
Dinasyddiaeth | Ffrainc, Wrwgwái |
---|
Galwedigaeth | ieithydd, bardd, cyfieithydd, dramodydd, llenor, awdur ffuglen wyddonol |
---|
Gwobr/au | Officier de la Légion d'honneur, Prif Wobr Llenyddol Academi Ffrainc, Heredia Prize |
---|
Bardd, dramodydd, nofelydd, ac awdur straeon byrion o Wrwgwái yn yr iaith Ffrangeg oedd Jules Supervielle (16 Ionawr 1884 – 17 Mai 1960).[1]
Ganwyd ym Montevideo i rieni o Ffrainc: mam o dras Fasgaidd a thad o Ocsitania. Teithiodd y teulu i Oloron-Sainte-Marie, ac yno bu farw rhieni Jules cyn ei ben-blwydd cyntaf. Mabwysiadwyd gan ei ewythr a'i fodryb yn Wrwgwái ac yno buont yn byw nes yr oedd Jules yn 10 oed, pryd symudasant i Baris. Myfyriwr brwd ydoedd, gyda'r gallu i siarad Eidaleg, Saesneg, a Phortiwgaleg yn rhugl yn ogystal â Ffrangeg a Sbaeneg, ac astudiodd lenyddiaeth, celf, y gyfraith, a gwyddor gwleidyddiaeth. Cyhoeddodd ei gasgliad cyntaf o farddoniaeth, Brumes du passé (1901), yn ystod ei arddegau. Cafodd ei alw i'r fyddin yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, ac oherwydd yr oedd ei iechyd yn rhy wael i'w ddanfon i'r ffrynt cafodd waith yn y Weinyddiaeth Amddiffyn, ym mha le'r oedd ei alluoedd ieithyddol o fudd.
Enillodd sylw yn sgil cyhoeddiad y gyfrol Poems de L'humour triste (1919). Daeth yn gyfeillgar ag André Gide a Valery Larboud, dechreuodd mynychu salon wythnosol Jacques Riviere, a chyhoeddodd ei waith yn y cylchgrawn Nouvelle Revue Francaise. Cyfieithodd Supervielle waith Larboud ac eraill o'r Ffrangeg i'r Sbaeneg, a thrwy hynny fe gyflwynodd datblygiadau Ffrengig y 1920au i gylchoedd yr avant-garde yn Wrwgwái a'r Ariannin.[2] Teithiodd i Wrwgwái yn aml yn ystod ei yrfa.
Mae ei ryddiaith a'i farddoniaeth yn hynod o wreiddiol ac yn cyfuno themâu diwylliannol a chymdeithasol Río de la Plata â dylanwadau'r avant-garde Ffrengig. Un o'i weithiau nodweddiadol ydy L'Homme de la pampa (1923), nofel gynhyrfus sy'n ymdrin â bywyd y pampas a'r byd Ewropeaidd mewn modd eironig.[2] Thema gyffredin ganddo ydy hiraeth y dyn unig am gefn gwlad a'i fachgendod eidylaidd, a'i ddyhead am frawdoliaeth y ddynolryw. Ysgrifennodd gerddi teimladwy, weithiau digrif, megis "Gravitations" (1925), "Les Amis inconnus" (1934), a "La Fable du monde" (1938). Defnyddiodd dechnegau realaeth, gan wrthod y farddoniaeth swrealaidd oedd yn ffasiynol yn hanner cyntaf yr 20g, er iddo gynnwys ffantasi, alegori, a dihangdod yn fynych yn ei waith.
Ymhlith ei weithiau eraill mae'r nofelau Le Voleur d'enfants (1926) a Le Survivant (1928), y casgliadau o straeon byrion L'Enfant de la haute mer (1931) a Le Petit Bos (1942), y dramâu La Belle au bois (1932), Bolivar (1936), a Robinson (1949), a'r gyfrol o farddoniaeth Poèmes de la France malheureuse (1941).
Bu farw ym Mharis yn 76 oed.
Cyfeiriadau
- ↑ (Saesneg) Jules Supervielle. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 7 Mai 2019.
- ↑ 2.0 2.1 Graciela Montaldo, "Supervielle, Jules" yn Encyclopedia of Latin American and Caribbean Literature 1900–2003, golygwyd gan Daniel Balderston a Mike Gonzalez (Llundain; Routledge, 2004), t. 554.
Darllen pellach
- J. A. Hiddleston, L'univers de Jules Supervielle (Paris: Corti, 1965).
- Claude Roy, Jules Supervielle (Paris: Pierre Seghers, 1964).