Juan Perón

Juan Perón
GanwydJuan Domingo Perón Edit this on Wikidata
8 Hydref 1895 Edit this on Wikidata
Lobos Edit this on Wikidata
Bu farw1 Gorffennaf 1974 Edit this on Wikidata
o ffibriliad fentriglaidd Edit this on Wikidata
Quinta presidencial de Olivos Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethyr Ariannin Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Nation Military College Edit this on Wikidata
Galwedigaethswyddog milwrol, gwleidydd Edit this on Wikidata
SwyddVice President of Argentina, Arlywydd yr Ariannin, Arlywydd yr Ariannin Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolPartido Justicialista Edit this on Wikidata
TadMario Tomás Perón Edit this on Wikidata
MamJuana Sosa Toledo Edit this on Wikidata
PriodAurelia Gabriela Tizón de Perón, Eva Perón, Isabel Martínez de Perón Edit this on Wikidata
Gwobr/auColer Urdd Isabella y Catholig, Uwch Groes Dosbarth Arbennig Urdd Teilyngdod Gweriniaeth Ffederal yr Almaen, Uwch Groes y Marchog gyda Choler Teilyngdod Gweriniaeth yr Eidal, Uwch Groes y Llynges, gyda bathodyn gwyn, Grand Cross of the Aeronautical Merit (Spain) - White Decoration, Gorchymyn Cyffredinol San Martin, Order of May, Order of Merit of the Federal Republic of Germany, Urdd dros ryddid, Marchog Fawr Groes yn Urdd Llew yr Iseldiroedd, Urdd Cenedlaethol er Anrhydedd, Urdd Cenedlaethol Anrhydedd a Theilyngdod, Order of the Condor of the Andes, Gorchymyn Teilyngdod Cenedlaethol, Urdd Boyacá, Urdd Croes y De, Urdd Umayyad, Urdd Eryr Mecsico, Order of Merit of Duarte, Sanchez and Mella, Urdd Teilyngdod (Chili), Urdd Carlos Manuel de Céspedes, Star of the Socialist Republic of Romania Edit this on Wikidata
llofnod

Gwleidydd o'r Ariannin oeddJuan Domingo Perón (8 Hydref 18951 Gorffennaf 1974) a etholwyd yn Arlywydd yr Ariannin dair gwaith. Ef oedd sylfaenydd Peroniaeth a'r blaid sy'n arddel yr ideoleg honno, y Partido Justicialista.

Ganed Perón yn Lobos, Talaith Buenos Aires. Addysgwyd ef yn ninas Buenos Aires, ac aeth i'r Coleg Milwrol yn 1910, gan raddio yn 1916. Ei wraig gyntaf oedd Aurelia Tizón, a fu farw o gancr. Ail-briododd a'r actores María Eva Duarte (19191952) ar 22 Hydref 1945. Roedd Evita fel y gelwid Eva Perón yn cydweithio'n agos a'i gŵr yn wleidyddol, ac yn gefnogol i hawliau i ferched a diwygiadau poblogaidd o blaid y werin. Oherwydd hynny a'i gwaith elusennol câi ei haddoli gan y tlodion yn ystod ei hoes fer. Gweithiai'n galed o blaid rhoi'r hawl i bleidleisio i ferched. Sefydlodd Sefydliad Eva Perón er mwyn hyrwyddo lles cymdeithasol yn y wlad.

Etholwyd ef yn Arlywydd am y tro cyntaf ar 24 Chwefror 1946. Ar ddiwedd ei dymor cyntaf, ail-etholwyd ef yn etholiad 11 Tachwedd 1951. Bu farw Eva Perón ar 26 Gorffennaf 1952. Y tro hwn, ni allodd Perón gwblhau ei dymor, oherwydd diswyddwyd ef yn dilyn coup milwrol ar 16 Medi 1955. Bu mewn alltudiaeth am 18 mlynedd, nes dychwelyd a chael ei ethol yn Arlywydd am y trydydd tro ar 23 Medi 1973.

Bu farw yn ystod ei dymor fel Arlywydd ar 1 Gorffennaf 1974, ac olynwyd ef gan ei weddw, ei drydedd wraig María Estela Martínez de Perón, oedd wedi ei hethol fel is-arlywydd yn 1973.