Emynydd o Sir Gaerfyrddin oedd John Williams (tua 1728 – 26 Awst 1806).
Yn frodor o blwyf Llandyfaelog, Sir Gaerfyrddin, symudodd i fyw yn Sain Tathan, Bro Morgannwg. Bu'n weithgar yn sefydlu capel Bethesda'r Fro. Mae ei emynau yn cynnwys 'Pa feddwl, pa 'madrodd, pa ddawn' a 'Pwy welaf o Edom yn dod'.[1]
Llyfryddiaeth
- Cân Diddarfod (1793). Casgliad o'i emynau.
Cyfeiriadau
- ↑ Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru (Gwasg Prifysgol Cymru).