Chwaraewr rygbi'r undeb dros Gymru oedd John Strand-Jones (2 Rhagfyr 1877 – 3 Ebrill 1958). Cynrychiolodd ei wlad bum gwaith ym 1902 a 1903. Roedd hefyd yn offeiriad Anglicanaidd.
Cefndir
Ganwyd John Jones yn Llwyncelyn Mawr, Caeo, Sir Gaerfyrddin,[1] yn fab i Evan Jones, amaethwr a Margaret (née Davies) ei wraig. Bu farw ei dad pan oedd John yn llai na blwydd oed. Ychwanegodd "Strand", (enw tŷ byrddio oedd yn cael ei gadw gan ei fam) i'w enw pan aeth i Ysgol Coleg Dewi Sant, er mwyn ei wahaniaethu oddi wrth fechgyn eraill o'r enw John Jones oedd yn yr ysgol.[2] Addysgwyd ef yn Ysgol Coleg Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan, roedd yn gapten tîm rygbi'r coleg.[3] Ar ôl Dewi Sant aeth i Goleg yr Iesu, Rhydychen rhwng 1898 a 1901, gan raddio BA ym 1899. Gorffennodd ei hyfforddiant diwinyddol yng Ngholeg Mihangel Sant, Aberdâr.[4]
Gyrfa rygbi
Cyn mynd i Rydychen chwaraeodd rygbi clwb i Lanbedr Pont Steffan a Llanelli.[5][6] Chwaraeodd rygbi i Glwb Rygbi Prifysgol Rhydychen [7] ym 1899 yn y canol ac ym 1900 a 1901 yn gefnwr.[8] Ar ôl coleg bu'n chware i dîm Cymru Llundain am ychydig gemau cyn ddychwelyd i Lanelli.
Gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf i Gymru ym Mhencampwriaeth y Pedair Gwlad 1902 yn erbyn Lloegr, gan chwarae yn safle'r cefnwr a sgorio gyda chic gosb.[1] Fe greodd hefyd un o geisiadau Cymru.[9] Chwaraeodd yn y gemau eraill yn erbyn yr Alban (gan sgorio trosiad ) ac Iwerddon. Enillodd Cymru'r tair gêm, gan ennill y bencampwriaeth a'r Goron Driphlyg. Y flwyddyn ganlynol, chwaraeodd yn erbyn Lloegr (gan sgorio trosiad) a'r Alban.
Enillodd Strand-Jones ragoriaeth hefyd fel chwaraewr criced,[10] tenis a hoci,[11] a chwaraeodd unwaith i dîm hoci Rhyngwladol Cymru.[12]
Gemau rhyngwladol wedi'u chwarae
Rygbi
Hoci
Gyrfa eglwysig
Ordeiniwyd Strand-Jones yn ddiacon Eglwys Loegr ym 1903 [19] ac yn offeiriad ym 1904.[20] Bu'n gurad yn yr Wyddgrug, Sir y Fflint rhwng 1903 a 1908, ac yng Nghorwen, Sir Feirionnydd [21] cyn mynd i wasanaethu fel caplan y fyddin yn India ym 1909.[22] Cafodd ei leoli mewn garsiynau yn y Punjab o dan Esgobaeth Lahore, (y mae'r rhan fwyaf ohoni bellach yn rhan o Bacistan).[23] Yn ystod Y Rhyfel Byd Cyntaf gwasanaethodd yn yr India a daeth yn uwch gaplan i Lu Faes Waziristan ar Ffin y Gogledd-orllewin ym 1916-17. Fe'i cofiwyd fel trefnydd brwd gemau hoci, pêl-droed a gemau criced i'r milwyr.[12]
Wedi ymadael a'r fyddin, bu wedyn yn gweinidogaethu yn Lloegr fel Rheithor Hanwood, Swydd Amwythig rhwng 1929 a 1934 ac fel Caplan Carchar yr Amwythig.[4]
Ar ôl ymddeol, symudodd yn ôl i Gymru i ddod yn ffermwr ger Llanbedr Pont Steffan.[8] Roedd yn gadeirydd Clwb Rygbi'r dref 1947 – 48.
Bywyd personol
Ym mis Hydref 1909 ychydig cyn iddo ymadael am India priododd Winifred Farrant, merch y Cyrnol Farrant, cynt o droedfilwyr Madras.[24] Bu iddynt o leiaf un fab sef John Harland Strand-Jones, y dewin dŵr o Gwmann.[25]
Bu farw ym 1958 yn 80 oed. Dywedodd un o'i gyn-gydweithwyr rhyngwladol, Rhys Gabe, fod Strand-Jones "bob amser yn ddibynadwy ar y cae ac yn ŵr bonheddig â theimladau caredig ac egwyddorion uchel oddi ar y cae".[9]
Cyfeiriadau