John Rhys-Davies |
---|
|
Ganwyd | 5 Mai 1944 Rhydaman |
---|
Man preswyl | Waikato Region, Ynys Manaw |
---|
Dinasyddiaeth | Cymru |
---|
Alma mater | |
---|
Galwedigaeth | actor, actor teledu, actor ffilm, actor llwyfan |
---|
llofnod |
---|
|
Actor ffilm o Gymro yw John Rhys-Davies (ganed 5 Mai 1944). Mae'n adnabyddus am chwarae'r cymeriad Gimli yng nghyfres ffilmiau The Lord of the Rings a'r cloddiwr carismataidd Sallah yn ffilmiau Indiana Jones.
Bywyd cynnar
Cafodd ei eni yng Nghaersallog ac fe'i magwyd yno ynghyd â chyfnodau yn Tanganica a Rhydaman.[1]
Roedd ei fam, Mary Margaretta Phyllis Jones, yn nyrs, a'i dad, Rhys Davies, yn beiriannydd mecanyddol [2] ac yn Swyddog Trefedigaethol.[3] Yn y 1950au cynnar bu'r teulu yn byw am sawl blwyddyn yn Kongwa, Dar es Salaam, Moshi a Mwanza Tansanïa, tra roedd ei dad yn gwasanaethu yno fel Heddwas trefedigaethol. Fe'i addysgwyd yn Ysgol Truro a Phrifysgol Dwyrain Anglia lle roedd yn un o'r 87 myfyriwr cynta i'w derbyn, a lle ffurfiodd y Gymdeithas Ddrama. Ar ôl dysgu yn Ysgol Uwchradd Watton yn Norfolk enillodd le yn Academi Frenhinol y Celfyddydau Dramatig.
Ffilmiau
Cyfeiriadau
Nodiadau