Ysgrifennydd Gwladol Adran y Gogledd, Board of Admiralty, Postfeistr Cyffredinol y Deyrnas Unedig, llysgennad, Prif Arglwydd y Morlys, Prif Arglwydd y Morlys, Prif Arglwydd y Morlys, ambassador of the Kingdom of Great Britain in the Kingdom of Spain
Tad
Edward Montagu
Mam
Elizabeth Popham
Priod
Dorothy Montagu, Martha Ray
Partner
Fanny Murray
Plant
Basil Montagu, John Montagu, William Augustus Montagu, Augusta Montagu, Robert Montagu, Mary Montagu, Edward Montagu
Gwobr/au
Cymrawd y Gymdeithas Frenhinol
Chwaraeon
Olynodd John Montagu, 4ydd Iarll Sandwich, PC, FRS (3 Tachwedd1718 – 30 Ebrill1792)[1] ei daid, y 3ydd Iarll i Iarllaeth Sandwich, yn 1729, pan oedd ond yn ddeg oed. Daliodd amryw o swyddi milwrol a gwleidyddol yn ystod ei oes, ond mae fwyaf enwog oherwydd i bobl honni mai ef ddyfeisiodd y frechdan, Sandwich yn Saesneg.
Anfonwyd ef i weinyddu fel plenipotensiwr yn y gyngres yn Breda yn 1746, a fe gariodd ymlaen i gymryd rhan yn nhrafodaethau heddwch Cytundeb Aix-la-Chapelle, a ddaeth i ban ym 1748. Yn Chwefror 1748, daeth e'n Arglwydd Cyntaf y Forlys, a ddailiodd y swydd hyd Mehefin 1751. Yn Awst 1753, daeth Sandwich yn un o brif Ysgrifenyddion Gwladol, a cymerodd ran arweiniol yn erledigaeth John Wilkes am enllib aflan, er ei fod wedi ymwneud â Wileken yn yr Hellfire Club ddrwg-enwog. Perfformiwyd The Beggar's Opera gan John Gay yn Covent Garden yn fuan wedyn, fe ymglymwyd Sandwich i gymeriad Jemmy Twitcher, bradwr Macheath yn y ddrama, fyth wedyn oherwydd ymddygiad Sandwich.
Daeth yr Arglwydd Sandwich yn Bostfeistr Cyffredin yn 1768, ac yn Ysgrifennydd Gwladol yn 1770, ac eto yn Arglwydd Cyntaf y Forlys o dan weinyddiaeth Arglwydd North o 1771 hyd Mawrth 1782. Er iddo ddal sawl swydd pwysig, roedd Sandwich yn analluog ac yn llwgr.
Priododd Sandwich Dorothy Fane, merch Isiarll 1af Fane, a chawsant fab, John, Isiarll Hinchingbrooke (1743–1814), a olynodd ei dad fel y 5ed Iarll. Trasiedi personol cyntaf Sandwich oedd dirywiad yn iechyd ei wraig, yn y diwedd, aeth hi'n wallgof. Fe gafodd Sandwich 16 mlynedd o hapusrwydd yn ddiweddarach gyda'r cantores opera Martha Ray, a chawsant tua naw o blant, roedd Basil Montagu (1770–1851), llenor, arbenigwr cyfreithiol a dyngarwr, yn un ohonynt.[3] Bu trasiedi arall yn Ebrill 1779 pan llofruddiwyd Ray yng nghyntedd y Tŷ Opera Brenhinol yn Covent Garden gan gwynwr cenfigennus, James Hackman, RheithorWiveton. Ni ddaeth Sandwich fyth dros ei alar.
Y Frechdan
Mae'n bosib y gymerwyd y gair Saesneg am frechdan, sandwich, ar ôl Arglwydd Sandwich, ond ni ddyfeisiwyd y frechdan ganddo.[4] Mae amgylchiadau dyfeisio'r frechdan yn dal i gael eu dadlau hyd heddiw. Fe argraffwyd achlust yn llawlyfr teithio Tour to London gan Pierre Jean Grosley, gan ffurfio'r chwedl boblogaidd mai bara a chig a gynhaliodd yr Arglwydd Sandwich wrth y bwrdd gamblo[5]. Ond mae bywgraffwr Sandwich, N.A.M. Rodger, yn cynnig y syniad y bu'n mwy tebygol iddo fwyta ei frechdan cyntaf wrth ei ddesg oherwydd ei ymrwymiadau i'r forlu, gwleidyddiaeth a'r celfyddydau.
1746 Cael ei anfon fel plenipotensiwr i'r gyngres yn Breda, ac yn cario 'mlaen i gymryd rhan yn y trafodaethau hyd i Gytundeb Aix-la-Chapelle cael ei arwyddo ym 1748
1748 Dod yn Arglwydd Cyntaf y Forlys
1763 Dod yn un o'r prif Ysgrifenyddion Gwladol
1768 Dod yn Postfeistr Cyffredin
1770 Dod yn Ysgrifennydd Gwladol
1771–1782 Dod yn Arglwydd Cyntaf y Forlys unwaith eto