John Blackwell (Alun)

John Blackwell
FfugenwAlun Edit this on Wikidata
Ganwyd1797 Edit this on Wikidata
Yr Wyddgrug Edit this on Wikidata
Bu farw19 Mai 1840 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethbardd Edit this on Wikidata

Bardd ac offeiriad o Gymru oedd John Blackwell (tua diwedd 179719 Mai 1840)[1]. Ei enw barddol oedd Alun.

Bywgraffiad

Cafodd ei eni ym Mhonterwyl, ger Yr Wyddgrug yn Sir y Fflint. Roedd ei fam o Langwm a mwynwr oedd ei dad[angen ffynhonnell]. Crydd oedd o wrth ei alwedigaeth. Daeth i sylw yn dilyn ei awdl Maes Garmon yn Eisteddfod Yr Wyddgrug ym 1823 ac enillodd ei awdl Genedigaeth Iorwerth II yn Eisteddfod Rhuthun y flwyddyn ddilynol. Ym 1824 aeth i Feriw lle dysgodd Ladin a Groeg gan y ficer, y Parch Thomas Richards. Ym 1825 cafodd ysgoloriaeth i fynd i Goleg yr Iesu, Rhydychen trwy garedigrwydd bnoheddwyr a chlerigwyr a edmygai ei waith. Graddiodd ym 1828 a chafodd ei ordeinio ym 1829 i guradiaeth Treffynnon lle y bu am bedair blynedd. Yn 1833 rhoddodd Arglwydd Broughham iddo fywoliaeth Manordeifi yng ngogledd Sir Benfro fel rheithior y plwyf, a bu'n byw yno am weddill ei oes. Yn 1839 priododd Matilda Dear o Bistyll, ger Treffynnon[1]. Bu farw yn 19 Mai 1841 yn 42 oed a chladdwyd ef ym mynwent Maenor Deifi. Cyhoeddwyd ei waith yn 1851.[2]

Gwaith llenyddol

Canai Alun ar y mesurau caeth, ond gwelir ei ddawn ar ei gorau yn ei cerddi rhydd telynegol. Enillodd yn yr eisteddfodau ond ni chyhoeddwyd ei waith tan ar ôl iddo farw, yn y gyfrol Ceinion Alun (1851), a olygwyd gan Gutyn Padarn. Ymhlith ei gerddi mwyaf adnabyddus mae 'Abaty Tyndyrn', 'Cân Doli' a 'Gwraig y Pysgotwr'. Y gerdd a wnaeth ei enw fodd bynnag oedd ei farwnad i'r Esgob Heber, a wobrwyd yn Eisteddfod Dinbych yn 1828.

Ysgrifennodd nifer o lythyrau yn ogystal, yn Gymraeg a Saesneg, a nodweddir gan arddull cain a diwylliedig. Cyfrannodd nifer o erthyglau i'r cylchgronau Cymreig hefyd, a threuliodd gyfnod fel olygydd Y Cylchgrawn (Llanymddyfri).

Llyfryddiaeth

  • John Blackwell: Ceinion Alun, gol. Gutyn Padarn (Isaac Clarke, Rhuthun, 1851). Cyfrol sy'n cynnwys cofiant diddorol hanner can tudalen

Cyhoeddwyd detholiad o'i gerddi wedi'u golygu gan Owen M. Edwards yng Nghyfres y Fil (1909).

Cyfeiriadau

  1. 1.0 1.1 Y Bywgraffiadur Ar-Lein; adalwyd 04/01/2013.
  2. Gwaith Alun. Golygydd Owen M Edwards. Cyfres y Fil 1909.