Aelod o 19fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 18fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 17eg Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 16eg Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 15fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 14eg Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o'r 13eg Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o'r 13eg Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 11eg Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o Dŷ'r Arglwyddi, Aelod o 10fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 9fed Senedd y Deyrnas Unedig
Ganwyd Walsh yn Warfield Park, ger Bracknell yn Berkshire, yn unig fab i Syr John Walsh, Barwnig 1af a'i wraig Elizabeth, merch Joseph Walsh. Benn oedd cyfenw gwreiddiol y teulu ond fe'i newidiodd i Walsh ym 1795 yn unol ag ewyllys ewythr ei wraig Syr John Walsh (1726-1795), a adawodd iddo ffortiwn a wnaed yn yr India, gan gynnwys ystadau yn Berkshire a Sir Faesyfed, a hefyd daliadau mawr yn yr Iwerddon, yn bennaf yn Swydd Corc a Swydd Kerry.
Addysgwyd Walsh yn Eton a Choleg Eglwys Crist, Rhydychen gan raddio ym 1816. Etifeddodd ystadau yn Sir Faesyfed oddi wrth ei ddiweddar fam ar gyrraedd oedran dyn ym 1819 ac fe etifeddodd ystadau ei dad yn Cumbria ar ei farwolaeth ef ym 1825. Erbyn 1874 roedd yn berchen ar gyfanswm o 12,500 erwau o dir yn Sir Faesyfed.
Gwasanaethodd fel Aelod Seneddol Sudbury, Suffolk rhwng 1830 a 1834. Yn Etholiad Cyffredinol 1835 safodd fel ymgeisydd Ceidwadol yn Sir Faesyfed gan golli o 27 pleidlais. Yn Etholiad Cyffredinol 1837 safodd yn aflwyddiannus etholaeth Poole cyn cael ei ailethol fel AS Sudbury mewn isetholiad ym Mawrth 1837. O glywed am farwolaeth Walter Wilkins AS Sir Faesyfed ym 1840, ymddiswyddodd fel aelod Sudbury er mwyn ceisio eto ym Maesyfed. Bu Syr Love Parry Jones Parry yn canfasio'r etholaeth ar ran y Rhyddfrydwyr ond o weld pa mor wael oedd ei obeithion o ennill tynnodd ei enw allan o'r ornest ac etholwyd Walsh yn ddiwrthwynebiad[2][3]. Parhaodd yn AS Sir Faesyfed hyd ei ddyrchafu i Dŷ'r Arglwyddi fel Barwn 1af Ormathwaite ym 1868.
Cyhoeddiadau
Cyhoeddodd nifer o bamffledi yn ymdrin a gwahanol agweddau o wleidyddiaeth, hanes a gwyddoniaeth gan gynnwys
The Poor Laws in Ireland (1830)
Observations on the Ministerial Plan of Reform (1831)
On the Present Balance of Parties in the State (1832)
Chapters of Contemporary History (1836)
Political Back-Games (1871)
Astronomy and Geology Compared (1872)
Lessons of the French Revolution, 1789-1872 (1873).
Teulu
Priododd Arglwydd Ormathwaite Jane, merch George Grey, 6ed Iarll Stamford, ym 1825. Bu iddynt ddau fab a dwy ferch. Bu farw yn ei gartref yn Warfield yn Ebrill 1881, yn 82 mlwydd oed, fe'i olynwyd yn ei anrhydeddau gan ei fab hynaf, Arthur[4].
Cyfeiriadau
↑W. R. Williams, ‘Walsh, John Benn-, first Baron Ormathwaite (1798–1881)’, rev. H. C. G. Matthew, Oxford Dictionary of National Biography, Oxford University Press, 2004 accessed 5 June 2016
↑https://archive.org/stream/cu31924030498939#page/n197/mode/2up The parliamentary history of the principality of Wales, from the earlies times to the present day, 1541-1895, comprising lists of the representatives, chronologically arranged under counties, with biographical and genealogical notices of the members, together with particulars of the various contested elections, double returns and petitions
by Williams, William Retlaw, 1863 adalwyd 5 Mehefin 2016