Mae Jess Davies (ganwyd 11 Ebrill 1993) yn fodel o Gymru o Aberystwyth[1] sydd wedi ymddangos ar glawr cylchgronau fel Zoo, Nuts ac FHM.[2][3]
Yng Ngorffennaf 2015 darlledodd S4C raglen arni o'r enw Jess y Model a Tudalen Tri'. Erbyn 2015 ymddangosodd ar galedr Hot Shots.[2] Ym mis Medi, 2017 roedd hi ar raglen gan S4C yn dathlu Merched y Wawr yn 50 oed lle dywedodd hi y basa hi'n ymuno gyda Merched y Wawr pan mae hi'n hun.
Addysg
Astudiodd Gymdeithaseg ym Mhrifysgol Morgannwg, lle'r ysgrifennodd draethawd hir ar 'Rywioli merched yn y cyfryngau' (sexualisation of women in the media). Mewn cyfweliad gyda'r BBC dywedodd "Roedd hi'n anodd rhannu fy amser rhwng modelu a'r brifysgol. Weithiau roedd rhaid i fi droi lawr swyddi modelu achos roedd gen i draethodau i'w gwneud, ond mae e yn bosibl."
Model
Yn 2010 cystadleuodd hi yn Miss Cymru ond doedd hi ddim yn llwyddiannus; fodd bynnag cafodd sawl contract a gwaith yn dilyn hynny. Mae hi'n ystyried symud i'r LA er mwyn datblygu ei gyrfa.
Yn 2017 roedd ganddi fusnes dillad nofio a ioga ac roedd yn byw yng Nghaerdydd.
Gweler hefyd
Cyfeiriadau
Dolenni allanol