Jean Piaget |
---|
|
Ganwyd | Jean William Fritz Piaget 9 Awst 1896 Neuchâtel |
---|
Bu farw | 16 Medi 1980 Genefa |
---|
Dinasyddiaeth | Y Swistir |
---|
Alma mater | - Prifysgol Neuchâtel
|
---|
ymgynghorydd y doethor | - Otto Fuhrmann
|
---|
Galwedigaeth | seicolegydd, swolegydd, rhesymegwr, athronydd, academydd, malacolegydd, biolegydd, addysgwr |
---|
Cyflogwr | |
---|
Prif ddylanwad | Immanuel Kant |
---|
Tad | Arthur Piaget |
---|
Priod | Valentine Piaget |
---|
Gwobr/au | doethor anrhydeddus o Brifysgol Paris, doctor honoris causa from the University of Aix-Marseille, Gwobr APA am Cyfraniadau Gwyddonol Difreintiedig i Seicoleg, Award for Distinguished Contributions to Developmental Psychology, Gwobr Erasmus, Career Achievement Award for Distinguished Psychological Contributions to Education, Gwobr Balza, Honorary Fellow of the British Psychological Society |
---|
Seicolegydd o'r Swistir oedd Jean Piaget (9 Awst 1896 – 16 Medi 1980). Mae'n fwyaf adnabyddus am ei ddamcaniaeth datblygiad gwybyddol mewn plant.
Gwelodd Piaget bedwar prif gyfnod o ddatblygiad mewn plentyndod:
- Y cyfnod cynhwyraidd-symudol (0–2 oed) – Mae plant yn defnyddio'u synhwyrau a'u symudiadau i ddarganfod eu hunain a'u hamgylchedd.
- Y cyfnod cyn-weithredol (2–7 oed) – Mae plant yn dysgu drwy brofiadau gyda gwrthrychau go iawn. Maent yn credu bod gan wrthrychau ymwybyddiaeth. Maent yn methu ag amgyffred cyfaint a rhifau.
- Y cyfnod gweithredol diriaethol (7–11 oed) – Mae plant yn dal i ddysgu drwy brofiadau gyda gwrthrychau go iawn. Nid ydynt yn credu bod gan wrthrychau ymwybyddiaeth erbyn hyn. Maent yn deall nifer a hyd.
- Y cyfnod gweithredol ffurfiol (12 – oedolyn) – Mae plant yn datblygu cysyniadau haniaethol, ac yn gallu defnyddio rhesymeg a meddwl yn rhesymegol.
Enillodd Wobr Erasmus ym 1972.[1]
Cyfeiriadau